DRAENEN DDU Theatr Bara Caws DRAENEN DDU cyfieithiad Angharad Tomos o Blackthorn gan Charley Miles Ar yr wyneb mae'n blanhigyn cwbl wahanol, ond yr un yw'r gwraidd. Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae'r ddau'n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae'r clymau'n dechrau datod. Cyfieithiad Angharad tomos o ddrama Charley Miles, Blackthorn, a ddenodd sylw mawr yng Ngwyl Caeredin llynedd. Mae cefn gwlad yn newid a'r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad. Mae'r ddrama yma'n siwr o daro tant gyda'n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw. am y perfformiwr Cwmni Theatr Cymuned Proffesiynol Cymraeg yw Theatr Bara Caws.O’i gartref yng Nghaernarfon mae’r cwmni wedi bod yn cynnig cynyrchiadau wedi eu cynllunio a’u perfformio yn arbennig i gynulleidfaoedd Cymraeg yn eu cymunedau ers dros ddeg mlynedd ar hugain. Mae Theatr Bara Caws yn gwmni cydweithredol sydd â chnewyllyn parhaol o 5 aelod: 4 llawn amser cyflogedig a Chydlynydd Artistig. Gweinyddir y cwmni gan 2 aelod parhaol o dan oruchwyliaeth bwrdd rheoli, a chaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cynghorau Sir Gwynedd, Môn a Chonwy, a nifer o Gynghorau Cymuned. Bu’n gofrestredig fel elusen ers 1977. Er mai Gwynedd yw ein dalgylch naturiol, mae Bara Caws yn teithio Cymru gyfan yn rheolaidd, yn perfformio mewn neuaddau pentref, canolfannau cymdeithasol, theatrau, ysgolion a chlybiau gan fynd â’n cynyrchiadau i ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o theatr broffesiynol fyw. Cynigir y perfformiadau am ffi resymol i unrhyw gymdeithas neu fudiad sydd yn dymuno gwahodd Bara Caws i’w hardal. Disgwylir i’r mudiadau sicrhau canolfan addas, dosbarthu tocynnau a hybu’r cynhyrchiad yn lleol gyda phosteri a deunydd marchnata a baratoir gan y cwmni. Mae unrhyw elw ddaw o’r nosweithiau yn mynd yn syth i achosion da lleol. Tros y blynyddoedd mae Bara Caws wedi creu rhwydwaith cryf o drefnwyr dros Gymru i gyd a phob amser yn awyddus i glywed gan unigolion sy’n fodlon mentro. Teimlwn fod y system hon o drefnu yn gweithio cystal gan fod y trefnwyr lleol gymaint mwy cyfarwydd â’u milltir sgwâr, ei disgwyliadau a’i chynulleidfaoedd. O ganlyniad mae trefnydd da yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Bara Caws a’r gymuned, gan sicrhau cynulleidfaoedd cryfach a nosweithiau llwyddiannus. Mae Bara Caws yn llwyfannu o leiaf tri chynhyrchiad y flwyddyn, gyda’r arlwy yn cynnwys amrediad eang o ddeunydd, o gomedïau teuluol a dramâu ysgafn i sgwennu newydd heriol ac wrth gwrs ein sioeau clybiau. Nod y cwmni yw cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf bosib o’r gymuned, yn y gymuned. Credwn fod ein gwaith yn cynnig profiadau theatrig o’r radd flaenaf, yn dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon Cymru a chalonnau’r Cymry. Aelodau llawn amser y cwmni yw - Berwyn Morris-Jones, Emyr Morris-Jones, Linda Brown, Mari Emlyn a Tony Llewelyn.