Cael hyd i sioe addas Chwiliwch am syniadau ar ein gwefan neu ffoniwch ni am argymhellion i’w trafod â’ch pwyllgor. I archebu drwom, rhaid ichi fod yn sefydliad cymunedol neu’n debyg – os na wyddoch, gofynnwch inni’n gyntaf Cael hyd i berfformiwr
Llenwi ffurflen gais Noson Allan Mewngofnodwch neu cofrestrwch eich manylion a nodi’r lleoliad lle yr hoffech gynnal y sioe. Wedyn llenwch y ffurflen gais seml. Cofrestru ac ymgeisio
Sut y gweithia’r ochr ariannol Ni chynigiwn grant eithr gwarant yn erbyn colled. Talwn ni ffi’r perfformiwr a thalwch chi yn ôl inni yr incwm tocynnau a gewch wrth y drws. Gobeithio ichi lwyddo gan allu ad-dalu cyfran dda o ffi’r perfformiwr oherwydd y bydd yr arian wedyn ar gael i grwpiau eraill. Am esboniad llawnach, cliciwch y ddolen isod. Esboniad o’r ochr ariannol
Cynnal y digwyddiad Rhaid ichi wedyn hyrwyddo’r digwyddiad yn eich cymuned, trefnu’r noson, gwerthu tocynnau, cael gwybod a fyddai arnoch eisiau trwydded gan yr awdurdod lleol. Lledaenwch y baich gan ofyn am gymorth gan eraill. Mwynhewch y noson. Cymorth wrth hyrwyddo
Wedyn Llenwch y ffurflen adrodd seml â manylion am sawl person a ddaeth, eich incwm o docynnau a’ch barn o’r sioe. Wedyn