Mae Noson Allan yn helpu grwpiau
cymunedol yng Nghymru i lwyfannu sioeau proffesiynol yn eu
hardaloedd lleol drwy ddileu'r perygl ariannol iddynt.
I weld sut y gweithia'r cynllun mewn 5 cam, cliciwch yma.
Isod mae disgrifiad byr o sut i gynnal digwyddiad drwy'r
cynllun. I islwytho'r ddogfen, cliciwch yma
Cyn y sioe
Cysylltwch a ni yn swyddfa Noson Allan
neu drwy www.nosonallan.org.uk am syniadau gwych am sioeau
addas i'ch neuadd neu gallwch drefnu gyda pherfformwyr proffesiynol
a welsoch rywle arall (ond cofiwch nad ymdriniwn a phantos neu
artistiaid teyrnged).
Cysylltwch â'r perfformiwr,sicrhewch ei fod yn gweddu i'ch
lleoliad, ofynnwch beth sydd eisiau arno ac a all ddarparu deunydd
cyhoeddusrwydd a phenderfynwch yn llac ar ddyddiad. Gwnewch gais i
ni naill ai ar-lein neu drwy lenwi ffurflen
syml (4 thudalen yn unig) o
leiaf bedair wythnos cyn y digwyddiad neu'n gynharach os yw'n
bosibl. Dylai pris tocynnau adlewyrchu gwerth y sioe a'r hyn sy'n
fforddiadwy
yn eich cymuned; gallwn ni argraffu tocynnau yn rhad ac am ddim i
chi pe dymunech
Ariannu: Noson Allan fydd yn talu ffioedd y
perfformiwr a all amrywio'n fawr, hyd at £900. Cewch y perfformiwr
am bris safonol is â chymhorthdal sydd ar hyn o bryd yn 50% o'r ffi
lawn hyd at fwyafswm o £300 (£200 os yw'r lleoliad mewn ardal
Cymunedau'n Gyntaf).
Ym mhob achos bron, gallwn drefnu bod hyn wedi'i warantu'n gyfan
gwbl neu'n rhannol gan eich awdurdod lleol fel bod eich risg o
golli arian yn cael ei ddileu neu ei leihau gymaint â phosibl.
(Ar hyn o
bryd nid yw Torfaen, Merthyr, Casnewydd na Chaerdydd yn
bartner inni yn y cynllun, felly ni cheir gwarant awdurdod lleol i
hyrwyddwyr yno).
Mae'n bosibl trefnu sioeau drutach sy'n costio'n fwy na £900 hyd
at fwyafswm o £2000 os gallwch roi'r arian ychwanegol tuag
atynt.
Cynnal y Digwyddiad
Chi sy'n gyfrifol am gynnal y digwyddiad felly gwnewch yn siŵr
bod gennych eraill i'ch helpu gyda'r gwaith. Gofynnwch i'ch
awdurdod lleol a oes angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro neu
drwydded arall. Os oes, rhaid ei geisio o leiaf ddeg diwrnod cyn y
digwyddiad. Os na cheisiwch y drwydded mewn pryd, rhaid canslo'r
digwyddiad a chi fydd yn gyfrifol am ffioedd canslo.
Gofynnwch i'r perfformwyr pryd cewch gyhoeddusrwydd neu
wybodaeth i'r wasg oddiwrthynt, faint o'r gloch y bydd angen iddynt
osod pethau ar gyfer y sioe, sut trefnir y llwyfan, ble gallant
newid dillad, unrhyw faterion technegol ac a fydd eisiau bwyd neu
ddiod arnynt ar y noson.
Hyrwyddo
Hyrwyddwch y digwyddiad yn y wasg leol ac yn eich cymuned;
rhowch bosteri i fyny, cofiwch y cyfryngau cymdeithasol a
phwysigrwydd y gair ar y stryd.
Cofiwch gydnabod cefnogaeth Noson Allan a chynnwys gwybodaeth am
hygyrchedd i'r lleoliad gan bobl anabl (mae logos ar
gael yma).
Yn y digwyddiad ei hun, cyflwynwch y sioe o'r llwyfan a
chrybwyll yr egwyl (os oes un), soniwch am faterion sylfaenol
iechyd a diogelwch (allanfeydd tân, diffodd ffonau symudol ac ati)
a chydnabod cefnogaeth Noson Allan ac unrhyw noddwyr eraill.
Heblaw y dywed y perfformwyr fel arall, caewch y bar neu'r siop
fwyd yn ystod y perfformiad a gwnewch yn siŵr nad â'r raffl
Wedi'r sioe
(gall trefniadau ariannol amrywio ychydig)
Ni sy'n talu'r perfformiwr eu ffi lawn wrth i ni gael anfoneb a
ffurflen adrodd. Chi sy'n llenwi'r ffurflen adrodd syml gan ddatgan
eich incwm o docynnau ac anfon unrhyw incwm hyd at y swm a
warantwyd o £300/£200 at Swyddfa Noson Allan.
Os na chodwch £300/£200 ond mae gennych warant gan yr awdurdod
lleol, bydd hon yn gwneud yn iawn am y gwahaniaeth. Anfonwch atom
yr holl incwm sydd gennych a ni fydd yn anfon bil at yr awdurdod
lleol am y gweddill.Disgwyliwn i chi geisio eich gorau glas i
werthu tocynnau.
Os gwnewch fwy na £300/£200 gallwch eich grwp gadw'r £100 nesaf
o elw i helpu gyda costau. (Gadewch inni wybod os yw eich costau yn
uwch na hyn)
Dylid dychwelyd unrhyw arian mwy na hynny, hyd at gost lawn y
perfformiwr, i Swyddfa Noson Allan fel y gallwn gefnogi
digwyddiadau pobl eraill. (Cofiwch fod hyn ond yn wir am yr incwm o
docynnau.) Chi sy'n cadw unrhyw arian a godir o werthu lluniaeth
neu docynnau raffl.