Mae Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio
mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol i gynorthwyo grwpiau o
wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod a'r celfyddydau i galon eich
cymunedau. Gall grwpiau cymunedol ddewis o restr enfawr o
berfformwyr proffesiynol o ansawdd gwych a rhoi nhw ymlaen yn
eich neuaddau cymunedol, lleol neu ganolfannau traddodiadol eraill
ar draws y wlad. Os am ragor o fanyion ynglŷn â'r cynllun a sut i
hyrwyddo perfformiadau ewch i adran Bod yn Hyrwyddwr.

Pob blwyddyn mae yn agos i 550 o berfformiadau yn cael eu
harchebu drwy gynllun Noson Allan gan yn agos i 350 o grwpiau
cymunedol gwahanol. Yr ydym hefyd yn cynnig cynllun llai ei maint
i'r cynllun cyfredol o'r enw Noson Allan Fach sydd
yn cynnig perfformiadau llai i grwpiau cymunedol fel Merched Y
Wawr, a W.I.

Wrth weithio yn gysylltiedig gydag awdurdodau lleol yng Nghymru,
mae tîm Noson Allan yn gallu gweithredu gwarant yn erbyn colled am
ddigwyddiad, lle yr ydym yn talu ffi'r perfformiwr yn uniongyrchol,
ac mae'r hyrwyddwr cymunedol yn talu nôl incwm y tocynnau a
dderbyniwyd ar y drws.
Nid ydym yn hawlio nôl mwy na chyfanswm ffi'r perfformiwr, felly
bydd yr hyrwyddwr ddim ar golled drwy ddefnyddio'r cynllun. Y fwy o
arian yr ydym yn derbyn yn nôl, y fwy o archebion y gallwn ni
gefnogi yn y dyfodol.
Mae hyrwyddwyr yn gallu archebu'r mwyafrif o sioeau
proffesiynol, ond mae sawl yn holi Noson Allan am gyngor ynglŷn â
pha berfformiadau o safon uchel sydd yn addas i neuaddau bychain
cymunedol.

Mae tîm o dri pherson llawn amser wedi ei leoli yn swyddfa Noson
Allan yng Nghaerdydd, ond yn gyfrifol am leoliadau dros Gymru
gyfan.
Bwriad Noson Allan yn annog, galluogi a
chefnogi:
- Perfformiadau proffesiynol o safon mewn cymunedau ledled Cymru,
i bobl na fyddai'n cael mynediad rhwydd o bosib i ddigwyddiadau
celfyddydol.
- Annog economi'r celfyddydau- gan roi llwyfan i berfformwyr o
Gymru a thu hwnt gyrraedd cymunedau lleol.
- Annog datblygiad cymunedol, gwirfoddoli, a'r economi leol a
chyfrannu at ddefnyddio neuaddau pentref a lleoliadau cymunedol fel
mannau amlwg ar gyfer sefydliadau lleol.
- Rhoi cyngor, syniadau ac argymhellion i grwpiau hyrwyddo.
Cliciwch yma am gyfarwyddiadau
ynglŷn â sut mae'r cynllun yn gweithio.