Cydweithia cynllun arobryn yr hyrwyddwyr ifainc â
grwpiau o blant a phobl ifainc gan eu harwain drwy'r broses o ddod
yn hyrwyddwyr digwyddiadau cymunedol.
Gallwch lawrlwytho taflen wybodaeth yma
"Roedd popeth yn glir a'r gefnogaeth gan Gyngor y
Celfyddydau'n wych. Roedd y bobl ifainc yn falch iawn o'r hyn a
gyflawnasant. Datblygasant eu sgiliau a hyder. Maent ar dân eisiau
gwneud eto" Sharon Campbell, Canolfan Ieuenctid Bae Colwyn
Mae Cynllun Hyrwyddwyr Ifanc Noson Allan, yn ffordd ardderchog o
drosglwyddo sgiliau ymarferol i bobl ifanc a gwella'r berthynas
rhyngddynt ac ysgolion lleol.
Ers 2005, mae cynllun Hyrwyddwyr ifanc wedi rhoi profiadau
newydd a sgiliau pwysig i grwpiau o bobl ifanc o 7 - 18 oed.
Gweithia cynorthwyydd gydag athro neu arweinydd ieuenctid i alluogi
grŵp o bobl ifanc i brofi'r holl broses o hybu sioe, gan
gynnwys yr ymdrechion y tu ôl i'r llenni, y swyddfa docynnau,
blaen y tŷ, rheoli llwyfan a marchnata/cyhoeddusrwydd. Caiff y bobl
ifanc benderfynu am bopeth - a gwneud yr holl waith!
Gall grwpiau gael hwyl yn rhan o'r broses greadigol ac
addysgiadol a datblygu sgiliau gwaith, personol a
chymdeithasol.
Wrth ei gynnal mewn ysgolion cymunedol, gelli'r ddefnyddio'r
cynllun i ddarparu rhai elfennau penodol o'r cwricwlwm, am fod
ynddo agweddau rhifogrwydd, TGCh, mathemateg, celf a dylunio.
Caiff pobl ifanc gyfle i fod yn gyfrifol, dibynadwy a chreadigol
gan weithio mewn tîm, ynghyd a gwneud cyfraniad unigol yn ôl eu
hewyllys.
Crea'r cynllun gynulleidfa hefyd drwy wahodd y gymuned leol i
ddod i berfformiadau. Hyrwydda'r bobl ifanc y sioe, a gwahodd eu
teuluoedd a'u cyfeillion i ddod a phrofi rhywbeth newydd a
gwahanol.
Gal lleoli grwpiau hyrwyddwyr mewn ysgolion helpu i godi
swyddogaeth yr ysgol yn allweddol yn y gymuned gan ennyn ysbryd
cymunedol ymhlith disgyblion a rhieni.
Mae'r cynllun yn darparu hygyrchedd i 'r celfyddydau byw o safon
uchel gymunedau, sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd
gwledig a rhai difreintiedig yn gymdeithasol lle gallai
cyfleusterau fod yn brin.
Partneriaethau Cymunedol
Mae cynlluniau wedi datblygu partneriaethau llwyddiannus rhwng
grwpiau yn y gymuned - yr Heddlu, Ysgolion, Busnesau, Asiantaethau
Datblygu, Cymdeithasau Tai ac arweinwyr cymunedol. Gall fod
cyfleoedd i fynd y tu ôl i'r llenni mewn theatrau ac atyniadau
lleol, a gweld perfformiadau eraill.
Ariannu: Chwiliwn am bartneriaid ac
arian i gynnal y cynllun ar sail fwy ffurfiol yn ehangach dros
Gymru.
Yr hyn yr ydym ei angen gan grwpiau o hyrwyddwyr
yw:
- Grŵp ymrwymedig a phenderfynol gyda 5 - 30 o aelodau.
- O leiaf un arweinydd i fod yn berson cyswllt rhwng y
cynorthwyydd a'r grŵp
- Lleoliad lle hoffai'r grŵp gynnal y sioe yn lleol
Gall Noson Allan ariannu'r perfformiad drwy gyllideb sy'n
bodoli.
Nid oes angen profiad blaenorol o gynnal digwyddiad. Mae'r
cynllun yn rymus grwpiau i gymryd cyfrifoldeb dros hyrwyddo theatr
neu berfformiad proffesiynol sydd wedi eu haddasu ar gyfer maint eu
cynulleidfa. Ar ôl archebu'r perfformiad, eich cyfrifoldeb chi (
gyda chymorth y cynorthwyydd) yw trefnu digwyddiad a hybu'r
sioe i sicrhau cynulleidfa. Golyga hyn y cewch gyfle i arbrofi a
datblygu sgiliau ym meysydd marchnata, cyhoeddusrwydd, blaen y tŷ,
swyddfa docynnau ac agweddau technegol
A oes gennych ddiddordeb?
Os hoffech wybod rhagor am gynllun yr Hyrwyddwr Ifanc,
cysylltwch â Peter Gregory ar 02920 441340 neu e-bostiwch ymholiadau@nosonallan.org.uk