Cyngor Celfyddydau
Cymru
Prosiect Hyrwyddwyr Ifainc
Noson Allan

Mae gwerthusiad o 9 peilot Hyrwyddwyr Ifanc a
gyflwynwyd rhwng Mawrth i Fehefin 2012, sy'n cynnwys 137 o blant
rhwng 7 ac 16 oed, ar gael i lawr lwytho yma
"…Cynllun gwych sy'n rhedeg fel wats i ymgysylltu
â'r rhai
sydd allan ohoni."
Hwylusydd y prosiect
"…Galluogi'r plant i gael
ymdeimlad o berchnogaeth a
rheolaeth dros y digwyddiad a'i wneud yn brofiad
bythgofiadwy."
Hwylusydd y
prosiect
- 1. Cyflwyniad
Targeda'r prosiect grwpiau o blant a phobl ifainc i'w cynorthwyo
wrth drefnu a hyrwyddo digwyddiadau celfyddydol byw yn eu
cymuned. Gweithia'r bobl ifainc gyda hwyluswyr dros ychydig o
wythnosau gan fynd drwy'r holl brosesau trefnu digwyddiad
llwyddiannus. Cynnwys hyn bennu pris y tocynnau ac amser dechrau,
dylunio posteri, gwahodd pwysigion, ysgrifennu datganiadau i'r wasg
a marchnata. Rheola'r plant a'r bobl ifainc y sioe ar y noson gan
redeg y swyddfa docynnau, dangos pobl i'w seddi a sicrhau bod gan y
perfformwyr bopeth sydd arnynt ei angen.
Lluniwyd holiadur gwerthuso byr i gasglu gwybodaeth ar effaith a
chanlyniadau'r prosiect. Casglwyd gwybodaeth am gyfres o
ddigwyddiadau a gynhaliwyd ym Mawrth 2012 (ac un ym Mehefin) yn
beilot i roi prawf ar ymarferoldeb ffurflen yr arolwg. Ymhlith y
digwyddiadau roedd perfformiadau gan Theatr Na N'Óg o Gastell-nedd,
Theatr y Stori Gredadwy o Gaerdydd, theatr byped Delwedd Bicl o
Fryste a'r grŵp cerddoriaeth a dawns Swlw o Simbabwe.
Deuai pob grŵp o'r hyrwyddwyr ifainc hyn o ardaloedd Cymunedau'n
Gyntaf yng Nghymru ac nid oedd ganddynt ond ychydig neu ddim
profiad o berfformiadau byw, yn enwedig yn eu cymunedau. Ein nod yw
rhoi cyfleoedd i gymunedau difreintiedig yn gymdeithasol i gael
perfformiadau byw, fforddiadwy o safon a'r cyfle i rai pobl yn y
cymunedau hynny gael swyddi yn y celfyddydau.
Seilir yr adroddiad hwn ar 15 ffurflen werthuso a lenwyd ar
ddiwedd prosiect gan gynrychiolwyr neu hwyluswyr y bobl ifainc.

Summary/Prif bwyntiau
- There was 100% agreement that the Night Out Young
Promoter scheme is very successful. Comments made by the survey
respondents show it is a scheme that is well devised; works well
for the staff involved and has a huge impact on the children and
young people engaged in the programme. Dyma rai These are
just some of the general statements included in the feedback
forms:

"Wir-yr, mae'n wych."
Hwylusydd y prosiect
"Yr holl syniad - cael y plant i weld swyddi gwahanol yn y
theatr,
profiad ymarferol, ymrymuso."
Hwylusydd y prosiect
"Hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r celfyddydau mewn ardal
ddifreintiedig o Gaernarfon a rhoi neges glir i'r bobl ifainc nad
yw'r
celfyddydau i'r bobl fawr yn unig"
Hwylusydd y prosiect
"Ymgysylltu'n gryf â'r bobl ifainc, lefel uchel o
ymrwymiad,
hygyrchedd sioe broffesiynol yn y gymuned."
Cynrychiolydd pobl ifainc
"Rhagori ar ein gobeithion"
Hwylusydd
y prosiect
The word square above represents the full response to the
performance.