Mae NOSON ALLAN FACH wedi ei ddatblygu o gynllun sefydledig
Noson Allan.
Mae'n helpu sefydliadau cymunedol sy'n aelodau i gynnwys
perfformiadau artistig proffesiynol yn eu rhaglen reolaidd o
ddigwyddiadau, heb fynd y tu hwnt, i'r cyllidebau
arferol. (D/S Nid yw'n cefnogi darlithoedd
nac arddangosiadau - heblaw pan fo perfformiadau byw yn brif
elfen. Nid yw ychwaith yn cynnwys digwyddiadau o natur
lenyddol yn unig, a gefnogir efallai gan rhai o gynlluniau a gaiff
ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru. http://www.llenyddiaethcymru.org/hafan/
- Ffôn 02920 472266.)
Er mwyn cymhwyso, bydd angen i sefydliadau sy'n cynnal
digwyddiadau fod yn barod i groesawu'r rhai nad ydynt yn aelodau
i'r gynulleidfa - ac ni ddylid codi tâl arbennig am ffi mynediad
sy'n fwy nag unrhyw danysgrifiadau arferol i'r clwb.

Mae Noson Allan Fach yn cynnig ffi sefydlog i berfformwyr sydd
yn £120 ar yn o bryd. Os yw eich cais yn llwyddiannus bydd Noson
Allan yn talu'r ffi hon yn uniongyrchol i'r perfformiwr. Rydym yn
gofyn i'r hyrwyddwr gyfrannu £80 tuag at y ffi, ond mae'n bosib i
ni ofyn i'r Awdurdod Lleol gyfrannu £40 tuag at y swm.
Gallwch archebu digwyddiadau Noson Allan Fach ar ffurflen
archebu arwahan neu ar lein trwy'r wefan.
Gellir cynnal y perfformiadau ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos,
beth bynnag sy'n gyfleus i'r ddwy ochr. Ni cheir rhestr
bendant o artistiaid, ond bydd angen i berfformwyr fod â rhywfaint
o statws proffesiynol a byddant fel arfer wedi'u lleoli'n lleol er
mwyn bod yn barod i ymddangos am ffi gymharol fach mewn amgylchedd
anffurfiol.

Dylech wneud trefniadau dros dro gyda'r perfformiwr a
ddewiswyd gennych cyn cyflwyno'r ffurflen. Bydd ffurflenni
sydd yn cael ei dderbyn yn llai na 4 wythnos cyn y perfformiad yn
cael eu GWRTHOD.
Byddwn yn cydnabod derbyn eich ffurflen ac yn anfon cadarnhad
llawn yn agosach at y dyddiad.
