Dyma rai o'r sylwadau diweddar gan hyrwyddwyr ar ôl
digwyddiad Noson Allan
"Braf oedd cael cefnogaeth Noson Allan unwaith eto er mwyn gallu
dod a chyflwyniadau dramatig yn fyw i ardal wledig. Diolch o
galon." Ysgol Gynradd Dyffryn Banw :
"NI fyddem wedi gallu meddwl am ariannu noson o'r fath heb nawdd
Noson Allan." Merched y Wawr Llanwnda :
"Rhoddodd Noson Allan y cyfle i ni fel Menter Iaith I gynnal
noson gomedi Gymraeg ym Mhen y Bont ar Ogwr.Rhywbeth dydyn ni heb
wneud o'r blaen." Menter Bro Ogwr:
"Help mawr iawn mewn i ardal ar y ffin ậ Lloegr. Mae yn
hollol hanfodol fod artistiaid Cymraeg yn cael llwyfan." Saith
Seren Canolfan Gymraeg Wrecsam Cyf :
"Cyfle ardderchog i gymdeithasau bach gael elwa o dalent a a
digwyddiadau a fuasai fel arall allan o'n cyrraedd oherwydd y
gost." Cymdeithas Ddiwylliannol Salem
"Mae cynllun Noson Allan yn golygu y gall cynhyrchiadau
proffesiynol ymweld ac ardaloedd cefn gwlad. Cynllun hanfodol er
mwyn dod a'r celfyddydau at y bobl. " Menter Môn- Theatr
Ieuenctid
"Mae Noson Allan yn ein galluogi i gael bandiau o'r safon yma yn
ddiogel yn y wybodaeth y byddwn yn gallu talu nhw. Diolch o galon i
chi am eich help." Neuadd Llanarthne Village Hall
"Mae Noson Allan yn rhoi'r cyfle i ni allu ddarparu rhagor o
ddigwyddiadau cymdeithasol trwy gyfrwng yn Gymraeg yn
Abertawe." Menter Iaith Abertawe:
"Mae chwerthin iach yn gneud byd o les i rywun." Merched y Wawr
Abergele :
"Bydda' dim sioe heb Noson Allan." Pwyllgor Rhieni ac
Athrawon Ysgol Bro Aled
"Ein galluogi i gael artistiaid o safon gan fod cymorth ar gael
gyda'r costau. Mae'r cynllun yn hawdd i'w weithredu." Merched y
Wawr Cangen y Parc
"Diolch i Noson Allan, nawdd priodol a gwerthfawr." Cymdeithas
Capeli Cymraeg Wrecsam
""Ni fyddai'r gymdeithas yn gallu cynnal nosweithiau o'r safon
yma heb nawdd o ryw fath a hynny wedi ei gynnal mewn lleoliad
bychan ynghanol y gymuned." Cymdeithas Gruffydd ap Cynan
"Mae trefnu gig ar gyfer pobl ifanc er mwyn hybu eu diddordeb
mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn fenter mawr heb gymorth rhwyd
difelwch fel Noson Allan." Cymdeithas 4 a 6
"Mae'r cynllun yn galluogi grwpiau, yn enwedig mewn ardaloedd
Cefn Gwlad fel Ffarmers i groesawu perfformiadau safonol, gan ddod
a phrofiadau newydd i gynulleidfa wledig." Neuadd Bro Fana,
Ffarmers