
Mae Noson Allan yn rhan o Gyngor Celfyddydau Cymru. Rhoddwn
gymorth i grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod â'r
celfyddydau i'w cymunedau drwy ddewis a chynnal digwyddiadau
perfformiadol proffesiynol mewn lleoliadau anhraddodiadol bychain
(yn bennaf neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol). Caiff
cymunedau bychain hygyrchedd at gelfyddyd fawr mewn lle cyfarwydd,
cyfeillgar heb orfod teithio a chaiff artistiaid fwynhau perfformio
mewn lleoedd bychain, anffurfiol gyda chynulleidfa agos atynt.
Gweithiwn drwy'r flwyddyn gydag artistiaid lleol, cenedlaethol a
rhyngwladol gan gynnwys mathau gwahanol ar y celfyddydau perfformio
(theatr, syrcas, cerddoriaeth, sioeau pypedau) ond ariennir
digwyddiadau llenyddol gan www.llenyddiaethcymru.org
ac efallai y bydd corau a rhai cymdeithasau cerddoriaeth yn
dymuno ymchwilio i gyfleoedd cyllid gan Ty
Cerdd

Gweithiwn ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru i weithredu gwarant
yn erbyn colled mewn digwyddiadau lle talwn ffi'r perfformiwr ac
ad-dala'r hyrwyddwr cymunedol incwm y tocynnau ar y drws.
Ni chymerwn byth rhagor na chostia'r perfformiwr a gall yr
hyrwyddwyr dalu am eu costau eu hunain ar ôl talu'r swm a warentir.
Mwyaf yn y byd yr ennilla'r hyrwyddwyr yn ôl, mwyaf yn y byd sydd
gennym i wario ar gais arall. Gall ein hyrwyddwyr drefnu unrhyw
artist proffesiynol, ond daw llawer atom am gyngor.
Cawn ymholiadau lu oddi wrth gwmnïau ac ni allwn ymateb i bob
un.

Os ydych yn newydd i'r sector teithio gwledig, argymhellwch ichi
ymweld â Fforwm Teithio Gwledig Cenedlaethol a darllen ein
canllawiau i gwmnïau -
"Agoriad llygaid" a rydd atebion i'ch cwestiynau mwyaf
cyffredin.
Mae rhestr ar ein gwefan o ddetholiad wedi'i guraduro o sioeau
addas sy'n gweddu i'n lleoliadau a gall hyrwyddwyr ddewis ohoni.
Ond mae'n bwysig ichi ddeall nad gwarant o gael gwaith yw cyrraedd
y wefan - rhaid i hyrwyddwyr ymddiddori hefyd. Dewis ein hyrwyddwyr
y perfformiadau y maent am eu gweld ac sydd at ddant eu cynulleidfa
gydag ychydig o gyngor gennym ni

Fel arfer trefnwn waith i ryw 250-300 o gwmnïau a pherfformwyr
bob blwyddyn mewn gwahanol feysydd. Ar gyfartaledd cynhaliwn ryw
550 digwyddiad y flwyddyn felly dim ond ychydig o waith a gaiff
llawer o gwmnïau er y gall rhai lwyddo cael teithiau
hwy.
Rhaid cofio hyd yn oed os oes gennych sioe addas, ni fyddwch yn
sicr o gyrraedd ein rhestr. Efallai mai gormod o
gystadleuaeth sydd neu fod sioe debyg ond mwy addas gan eraill.
Mae'r gystadleuol
Bydd yn syniad creu teithiau cysylltiedig neu ymgysylltu â
lleoliadau celfyddydol ac ysgolion i lwyddo teithiau gwledig ond
rhaid cofio bod gan y theatrau mwy ardaloedd gwahardd sy'n
rhwystro'r un perfformiadau rhag digwydd mewn pellter neu amser
penodol.

Fel rheol yn y fath leoliadau, penwythnosau yw'r adeg brysuraf a
gall canol yr wythnos fod yn anodd - gyda gweithgareddau rheolaidd
megis bowlio, tai tsi ac ati. Ond yn y trefi mae canol yr wythnos
yn aml yn well.
Fel arfer nid oes gan leoliadau cymunedol offer technegol neu
dechnegwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y lle. Anaml y
ceir ystafelloedd newid, tai bach i'r perfformwyr a'r gallu i
lwyrdywyllu'r llwyfan. Gyda goleuo a sain, rhaid i gwmnïau fod yn
hunangynhaliol a hyblyg.

Bydd cyhoeddusrwydd perthnasol o safon yn hanfodol.. Er mai
rhwydweithio ac adnabod pobl sy'n gwerthu tocynnau'n aml, gall
poster neu daflen sâl ddadwneud yr holl waith da. Rhaid i bosteri
teithio yn y gymuned ddenu pobl at y syniad o fynd i'r sioe ac at y
sioe ei hun.
Amrywia ffioedd yn fawr, mae cyfyngderau ar yr hyn y gallwn ei
fforddio a dim ond cynulleidfa fach sydd gan lawer o leoliadau -
felly mae'n anodd gwneud elw mawr. Ar gyfartaledd talwn tua £550
gyda £900 yn cynrychioli'r brig o ran ffioedd. Os yw'r ffi'n fwy na
hon, rhaid i hyrwyddwyr dalu'n fwy a cholli yswiriant ychwanegol ac
fel arfer nid archebir y rhain o ganlyniad. Nid yw sioeau sy'n
costio dros £2000 yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Os trefnwch sioe, talwn eich ffi a threfnwn gyda'r hyrwyddwr
wedyn yr ochr ariannol gan gael ychydig o'r incwm
tocynnau. Dim ond ar ôl y sioe y gallwn dalu drwy
System Glirio Awtomataidd y Banciau a rhaid i chi ddarparu
anfoneb.