Beth yw Noson Allan?
Cynllun teithio cymunedol a gwledig i Gymru ydyw. Rhydd tîm
proffesiynol bach yng Nghaerdydd gymorth i grwpiau o wirfoddolwyr
ledled Cymru i ddod â'r celfyddydau i gymunedau drwy ddarparu
gwarant ariannol yn erbyn colled. Hybwn bron i 550 sioe'r
flwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru.
.
- Mae'n swnio'n anarferol. A yw'n unigryw?
Mae'n un o 40 prosiect tebyg ym Mhrydain. Mae pob un ychydig yn
wahanol ond gweithiant i helpu cymunedau i gynnal theatr fyw (a
cherddoriaeth, dawns, sioeau pypedau, llenyddiaeth, comedi a
ffilm). Rydym yn aelod o'r Fforwm Teithio Gwledig Cenedlaethol sy'n
cefnogi teithio gwledig ac eiriol drosto. Ariennir ef gan Gyngor
Celfyddydau Lloegr. www.nrtf.org.uk
- A wnewch chi archebu perfformiad o'm
sioe?
Fel arfer nid archebwn
sioeau megis lleoliad celfyddydol. Yn hytrach cynigiwn ddewislen o
gwmnïau a argymhellwn i hyrwyddwyr cymunedol sef y gwirfoddolwyr
sy'n rhedeg y lleoliadau. Eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod y
lleoliad yn gyfreithlon ac addas ar gyfer digwyddiad cyhoeddus ac
mor hygyrch â phosibl. A hwy sy'n dewis sioe o'n rhestr neu
trefnant yn uniongyrchol â'r artist.
Argymhellwn gwmni os ydym yn gyfarwydd â'i waith, a'i fod o
safon ac yn addas i deithiau ar raddfa fach.
Cawn gannoedd o ymholiadau bob blwyddyn ac felly nid yw'n bosibl
ymateb i bob un, i weld gwaith pob un neu gynnwys pob un ar ein
gwefan.
Mae negodi'n bosibl ymhob dim. Negodwn bob tro ffi deg a chewch
gontract. Gallwn fod yn hyblyg os ydym o'r farn y gwerthwch yn dda
a bydd diddordeb gan ein lleoliadau. Ar ddiwedd y dydd dibynna
sioeau ar ddymuniad ein lleoliadau a chynnwys ein cyllideb.
Amrywia ffioedd yn fawr, mae cyfyngderau ar yr hyn y gallwn ei
fforddio a dim ond cynulleidfa fach sydd gan lawer o leoliadau -
felly mae'n anodd gwneud elw mawr. Ar gyfartaledd talwn tua £550
gyda £900 yn cynrychioli'r brig o ran ffioedd. Os yw'r ffi'n fwy na
hon, rhaid i hyrwyddwyr dalu'n fwy a cholli yswiriant ychwanegol ac
fel arfer ni threfnir y rhain o ganlyniad. Nid yw sioeau sy'n
costio dros £2,000 yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Os trefnwch sioe, talwn eich ffi a threfnwn gyda'r hyrwyddwr
wedyn yr ochr ariannol gan gael ychydig o'r incwm tocynnau. Dim ond
ar ôl y sioe y gallwn dalu drwy System Glirio Awtomataidd y Banciau
a rhaid i chi ddarparu anfoneb.
- Sut archeba'r hyrwyddwyr cymunedol y sioeau a beth sy'n
digwydd wedyn?
Fel arfer cysyllta'r gwirfoddolwr â'r perfformiwr yn
uniongyrchol i wneud yn siŵr bod y sioe'n addas ac yn ffitio, y
gost yn fforddiadwy a threfniadau technegol eraill. Wedyn cytunant
ar ddyddiad addas cyn cysylltu â ni.
Fel arfer gallwn ddweud mewn tair wythnos o'r cais a all y
trefniant fynd ymlaen ac ar ôl cadarnhau, ysgrifennwn at yr
hyrwyddwr a'r perfformiwr. Gwarantwn dalu'r ffi ond bydd ar y
perfformiwr angen ymgysylltu'n uniongyrchol â'r hyrwyddwr i drefnu
bod popeth arall yn iawn gan gynnwys ymsefydlu, amser cyrraedd,
posteri ac ati. Dylid trefnu ymlaen llaw letygarwch gan gynnwys
bwyd a llety ac ni allwn fel arfer gynnig llety dros nos.
Cyfrifoldeb yr hyrwyddwr yw marchnata a chyflwyno'r sioe ar y
noson. Mae'n awyddus i'r sioe lwyddo. Wedi'r cyfan digwydd y cyfan
ar stepen ei ddrws. Gall hyn feddwl bod pobl yn ymarhous i fentro
ond gall marchnata da ac artistiaid medrus oresgyn hyn.
Ar ôl y sioe, rhaid ichi lenwi ffurflen adrodd fer a chyflwyno
inni anfoneb gan ddyfynnu rhif eich archeb. Talwn drwy System
Glirio Awtomataidd y Banciau cyn gynted â phosibl.
- Nid perfformiwr proffesiynol mohonof, a archebwch fy
sioe?
Na wnawn. Cefnogwn artistiaid proffesiynol sy'n ennill y rhan
fwyaf o'u hincwm drwy berfformio a theithio gwaith. Rhan o Gyngor
Celfyddydau Cymru ydym, a'n swyddogaeth yw helpu cymunedau i gael
gwaith o safon na welant fel arall oni theithiant i leoliad
mawr.
Nid cefnogi bandiau tafarn, artistiaid teyrnged neu bantos yw
ein swyddogaeth
- Rwy'n newydd i fyd teithio ac mae gennyf sioe yr hoffwn
roi cynnig arni. A archebwch hi?
Na wnawn. Rydym am gael darn o waith sy'n barod i'w deithio.
Gallwch werthu inni sioe a ddatblygir gan wybod y bydd yn barod
erbyn amser cychwyn y daith ond rhaid inni weld tystiolaeth o'r hyn
a wnewch. Ni allwn ei mentro â gwaith newydd heb ei brofi a heb ei
weld gydag artistiaid newydd heb brofiad o deithio. A hynny
oherwydd mai'r gwirfoddolwyr sy'n gorfod delio â'r gynulleidfa am
amser hir ar ôl ymadawiad y sioe.
- A ddylwn gyfieithu'r wybodaeth am fy sioe i'r
Gymraeg?
Gwlad ddwyieithog yw Cymru a gweithiwn yn y ddwy iaith, mae'n
holl ffurflenni a gwybodaeth yn ddwyieithog a chroeso ichi drafod
gyda ni yn yr un iaith neu'r llall. Mae tua 23% o'n harchebion ar
gyfer cwmnïau Cymraeg. Croeso ichi gyfieithu eich gwybodaeth i'r
Gymraeg yn enwedig os yw'ch sioe ar gael yn Gymraeg am y chwilia'r
hyrwyddwyr ar ochr Gymraeg y wefan. Dywedwch ym mha iaith mae eich
sioe. Os yw yn Saesneg yn unig - nid oes raid ichi gyfieithu'r
wybodaeth amdani i'r Gymraeg.
- Teithiaf ddarn dawns. A oes gennych
ddiddordeb?
Oes, rydym wrth ein bodd yn cynnal dawns mewn neuaddau. Ond
rhaid ichi ystyried rhai pethau hanfodol.
Mae dawns yn anodd ei gwerthu i neuaddau cymunedol.
Anaml y ceir llawr dawnsio, ystafelloedd newid, cawodydd, na
seddi ar ogwydd
. Os cynnwys eich dawns lawer o waith llawr, ni wêl y
gynulleidfa ef.
4. Mae'r egwyl yn hanfodol. Weithiau cynigir inni ddarnau dawns
hebddi. Cynhwyswch un. Nid archeba'n hyrwyddwyr sioe heb egwyl oni
ellwch eu darbwyllo y cânt noson lawn allan.
Ond siaradwch â ni am fod llawer o broblemau creadigol i gynnal
dawns mewn lleoedd bychain.
- Rwy'n gerddor/rwyf mewn band. Beth ddylwn ei
ystyried?
Mae'r gystadleuaeth yn llym gyda llawer o gynigion am fod
cerddoriaeth yn boblogaidd ymhlith ein lleoliadau a theimla'r
gynulleidfa ei bod wedi cael eu difyrru. Ceisiwn fedrau cerddorol,
set dynn a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu da ac ymgysylltu â'r
gynulleidfa. Rhaid ichi ystyried system sain, goleuo a marchnata
da. Bydd y rhan fwyaf o'n cynulleidfaoedd â diddordeb cyffredinol
yn hytrach nag arbenigol felly os ydych yn arbenigwyr, lledwch eich
apêl. Mae llawer o gerddorion gwerin a'r rhai sy'n canu mewn tefyrn
a gwyliau. Da o beth yw hynny ond ceisiwn grwpiau a all gynnal
cyngerdd llawn ar eu pennau eu hunain gerbron cynulleidfa sy'n
gwrando. Efallai bydd eich noson yn un o ddwy yn y flwyddyn gron
iddynt. A ellwch ei gwneud yn noson fythgofiadwy?
- Rydym yn eithaf technegol yn ein hanghenion. A yw hyn
yn broblem?
Nid pob tro ond rhaid cofio rhai pethau allweddol. Byddwch yn
cario eich stwff eich hun. Fel arfer nid oes gan ein lleoliadau
staff cefnogi i helpu felly efallai y bydd arnoch angen eich
technegwr a'ch offer eich hun.
Weithiau rhaid addasu goleuo i ymgymryd â nenfwd isel a
diogelwch y gynulleidfa. Mae gan rai lleoliadau ychydig o socedi'n
unig. Hwyaf yn y byd yw'r amser ichi ymsefydlu, anoddaf yn y byd
bydd gwerthu eich sioe oherwydd bod lleoliadau mor brysur gyda
gweithgareddau eraill sy'n rhoi incwm rheolaidd iddynt. Digwyddiad
ar ei ben ei hun yw'ch sioe chi, ochr yn ochr â phethau sy'n dod ag
incwm rheolaidd iddynt.
Cofiwch am linellau gweld.Yn anaml y cewch seddi ar ogwydd. Os
digwydd pethau pwysig ar y llawr, ni wêl y gynulleidfa hwy. Bydd y
gynulleidfa'n flin a safant i geisio gweld yn well.
- Côr ydym y gellir ei wahodd i berfformio
Fel rheol nid yw corau cymunedol yn gymwys i'n cynllun oherwydd
y gweithiwn gyda pherfformwyr proffesiynol. Cynnig Tŷ Cerdd arian i
gorau a chymdeithasau cerddorol gynnal digwyddiadau, archebu
arweinwyr ac unawdwyr a phrynu cerddoriaeth neu offerynnau. Gweler
http://www.wmic.org/about-us/46136
- Pa gyhoeddusrwydd fydd ei angen?
Disgwyliwn ichi ddarparu taflenni A5 a phosteri A4. Trafodwch
gyda'r hyrwyddwyr. Fel arfer disgwylir 200 taflen a 20 poster y
digwyddiad er yr amrywia lleoliadau yn eu gofynion. Mae gan rai
hyrwyddwyr ofod bach iawn ar hysbysfwrdd y pentref a gwerthir y
sioe ar lafar - mae anfon gormod o bosteri'n wastraff. Dylai fod
gan bosteri a thaflenni ddigon o fwlch i hyrwyddwyr argraffu
gwybodaeth a bod yn drawiadol i ddenu pobl at y syniad o fynd i'r
sioe ac at y sioe ei hun.
- Pa waith sy'n addas i gynulleidfaoedd
gwledig/cymunedol? Beth yw cynulleidfa
wledig? Beth yw cymuned?
Mae tua 23% o'n sioeau yn rhai Cymraeg. Gweithiwn ymhob un bron
o gymunedau Cymru gan gynnwys rhai difreintiedig yn gymdeithasol â
diweithdra hir dymor, rhai arfordirol a rhai mynyddig. Amrywia
cynulleidfaoedd - pobl sy'n dwlu ar theatr, pobl sy'n hoffi
chwaraeon yn lle, pobl sy'n casáu rhegi, pobl sydd am fentro, pobl
sydd am gael eu diddanu. Sioeau teuluol ag apêl eang sy'n gweithio
orau mewn ardaloedd difreintiedig am i bobl sydd â phlant fethu â
thalu am warchodwyr gyda'r nos. Mae'n anodd gwerthu perfformiadau
arbenigol i hyrwyddwyr. Mae'n bosibl mai dim ond 400 person sydd
mewn pentref ac ymhlith y rhain nifer bach iawn fydd yn gwirioni,
er enghraifft, ar jas modern. Gallwn ymwneud â gwaith arbenigol,
ond rhaid iddo gael ei gyflwyno a'i farchnata'n dda iawn.
Oes oes dal ddiddordeb gennych, gyrrwch eich gwybodaeth
i ni drwy ymholiad@nosonallan.org.uk