I islwytho copi o Delerau Cytundeb Noson
Allan cliciwch yma
I islwytho Canllawiau Noson Allan cliciwch yma
Amcanion Noson Allan
• Galluogi sefydliadau cymunedol sydd yn gyffredinol y tu allan
i seilwaith y celfyddydau hybu perfformiadau bychain o safon
• Darparu cyngor, gwybodaeth, cyfleoedd datblygu a hyfforddi ac
annog yr ymarfer gorau
• Hybu rhagor o ddealltwriaeth o werth teithio cymunedol
• Hybu perfformiadau o safon a darparu cyfleoedd i artistiaid a
pherfformwyr gyrraedd cymunedau ledled Cymru
• Annog gwaith newydd, cyfleoedd teithio a phartneriaethau lleol
a rhyngwladol gan sicrhau y caiff artistiaid ffioedd iawn
• Gweithio i adeiladu a chreu cynulleidfaoedd newydd i'r
celfyddydau perfformio
• Cryfhau cymunedau drwy'r celfyddydau perfformio byw