WAIT

ARHOSWCH

Tociwyd yn sylweddol ar fiwrocratiaeth a bydd bywyd yn haws i neuaddau pentref i fod yn graidd cymdeithasol i'w cymunedau drwy leihau'r baich ar adeiladau cymunedol.

Erbyn hyn mae neuaddau pentref yn wynebu llai o waith papur wrth gynnal digwyddiadau, dramâu, perfformiadau a nosweithiau cymdeithasol sy'n fodd i gymunedau glosio at ei gilydd.

Penarth Audience 3 Photo Betina Skovbro

Y brif ddeddfwriaeth yr effeithir arni yw'r Ddeddf Drwyddedu 2003 a gyflwynodd un system o reoleiddio cynnal adloniant ar gyfer y cyhoedd (neu'n breifat pan godir tâl i wneud elw), gwerthu neu weini alcohol a gweini lluniaeth yn hwyr y nos.

Yn ddiweddar newidiodd y Llywodraeth drwyddedau adloniant byw, yn unol â'i pholisi i gael gwared â rheoliadau diangen a beichiau sy'n pwyso ar y sector gwirfoddol a busnesau, yn enwedig lleihau biwrocratiaeth i annog perfformio cerddoriaeth fyw.

Penarth Audience 6 Photo Betina Skovbro

Gwiriwch faterion trwyddedu gyda'ch awdurdod lleol am y daeth y ddeddfwriaeth newydd hon i rym ar 6 Ebrill 2015.

Mae manylion llawnach yma: https://www.gov.uk/entertainment-licensing-changes-under-the-live-music-act ond dyma ei hanfod:

nid oes angen trwydded arnoch i lwyfannu perfformiad o gerddoriaeth fyw, neu chwarae cerddoriaeth a recordiwyd, i lwyfannu drama neu berfformiad o ddawns

  • os yw'n digwydd rhwng 8am ac 11pm; ac
  • os yw'n digwydd mewn man â mewndrwydded; ac
  • nid yw'r gynulleidfa yn fwy na 500 o bobl

Mae angen trwydded i sgrinio ffilm ond mae eithriadau ar gyfer addoldai, neuaddau pentref ac adeiladau eraill tebyg.

Solva Bottles photo by Pembrokeshire Photography

-->