Amdanom

Mae cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i ddod â'r celfyddydau perfformio i neuaddau a lleoliadau cymunedol.

Llun- Perfformwyr ar lwyfan, plât yn Llun troelli. Credyd Keith Morris

Ers ei sefydlu ym 1980, mae’n gweithio gyda rhwydwaith o hyrwyddwyr cymunedol gwirfoddol. Mae wedi darparu dros 14,000 sioe yn lleol. Gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol sy’n cynnal y sioeau i ddod â'r celfyddydau byw i'w cymuned. Gall grwpiau cymunedol (sef ein 'Hyrwyddwyr') ddewis o ystod enfawr o berfformwyr proffesiynol gwych a'u llwyfannu mewn neuaddau bentref neu gymunedol a lleoliadau anhraddodiadol eraill ledled y wlad. Mae 300 grŵp cymunedol gwahanol yn archebu tua 500 sioe drwy'r cynllun bob blwyddyn.  Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae Noson Allan yn gweithio a chyngor am beth i’w archebu neu os ydych am hyrwyddo digwyddiadau, ewch i  Adran yr Hyrwyddwyr.

Noson Allan Fach

​​Ochr yn ochr â'r prif gynllun, mae hefyd Noson Allan Fach sy'n cynnig sioeau bach i sefydliadau dan arweiniad yr aelodau fel Merched y Wawr neu Sefydliad y Merched. I ddod o hyd i berfformwyr sydd â sioeau ar gael ar Noson Allan Fach ewch i dudalen Sioeau i Archebu a dewiswch Noson Allan Fach o dan Categoreiddio sioeau.

Gwarant yn erbyn colled 

Gan weithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol Cymru, mae Noson Allan yn cynnig gwarant yn erbyn colled am ddigwyddiadau. Ni sy’n talu ffi'r perfformiwr a'r hyrwyddwr cymunedol sy’n ad-dalu incwm o’r drws. Nid ydym byth yn cymryd rhagor na chostau’r perfformiwr, felly ni fyddwch byth yn waeth eich byd drwy ddefnyddio'r cynllun. Po fwyaf o arian mae’r hyrwyddwyr yn ei gymryd, mwyaf o arian fydd gennym ni i ariannu ceisiadau eraill. 

Mae’r perfformiadau yn rhychwantu sawl celfyddyd: theatr, syrcas, pypedau, cerddoriaeth o bob math, dawns ac adrodd straeon. Rydym yn cynnig cyngor a syniadau am artistiaid i’w harchebu gyda sioeau sy'n addas i neuaddau cymunedol bach. Ond mae croeso ichi archebu artistiaid nad ydynt ar restr ein gwefan. 

Oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad i'ch cymuned?

Oes gennych chi sioe sy'n addas ar gyfer Noson Allan ?