Perfformwyr - Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Noson Allan?
Noson Allan yw'r cynllun teithio cymunedol a gwledig ar gyfer Cymru. Tîm bach yng Nghaerdydd sy’n ei redeg. Maent yn helpu grwpiau o wirfoddolwyr ledled y wlad i ddod â'r celfyddydau i galon eu cymuned drwy ddarparu gwarant ariannol yn erbyn colled. Mae dros 500 sioe'r flwyddyn yn digwydd mewn cymunedau ledled Cymru.
Pwy'n cynnal digwyddiadau?
Llawer o wahanol grwpiau, fel arfer mewn neuaddau pentref wedi’u trefnu gan bwyllgorau lleol. Ond gall unrhyw fath o grŵp neu sefydliad â chyfansoddiad sydd â mynediad i leoliad perfformio addas fod yn hyrwyddwyr Noson Allan. Mae mwyafrif y trefnwyr yn wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser, eu hegni a’u hangerdd i gynnal digwyddiad lleol sy'n rhoi cyfle iddyn nhw gael noson allan wych.
Swnio'n anarferol. Ydy'n unigryw?
Nac ydy. Mae Noson Allan yn un o 40 cynllun tebyg ar draws y DU. Mae pob un ychydig yn wahanol o ran arddull, ond maent i gyd yn gweithio drwy ganiatáu i gymunedau gynnal perfformiadau byw. Mae Noson Allan yn aelod o'r National Rural Touring Forum ymgyrch sy'n eiriol dros deithio gwledig ac yn cefnogi teithio gwledig ledled y DU.
Fyddwch yn archebu fy sioe?
Wel, nid ni fel arfer sy’n archebu sioeau’n uniongyrchol fel y bydd lleoliad celfyddydol. Mae ein gwefan yn cynnig rhestr wedi'i churadu o gwmnïau rydym yn eu hargymell i hyrwyddwyr sy'n gyfrifol am y lleoliadau. Nhw sy’n sicrhau bod popeth yn gyfreithlon ac addas am ddigwyddiad cyhoeddus ac mor hygyrch â phosibl. Maent yn dewis sioe sy’n apelio o'n rhestr. Weithiau byddant yn archebu artist yn uniongyrchol. Byddwn ddim ond yn argymell cwmni os ydym yn gyfarwydd â’i waith, yn barnu ei fod o safon ac addas i’w deithio ar raddfa fach. Fel unrhyw leoliad, rydym yn cael cannoedd o geisiadau'r flwyddyn gan berfformwyr ac nid yw'n bosibl ymateb i bob cais, gweld pob cwmni na rhestru pawb ar ein gwefan.
Dydw i ddim yn berfformiwr proffesiynol Wnewch chi archebu fy sioe ?
Na wnawn. Mae Noson Allan yn cefnogi artistiaid proffesiynol sy'n ennill y rhan fwyaf o'u hincwm drwy berfformio a theithio. Rydym yn rhan o Gyngor Celfyddydau Cymru a nôd ein gwaith yw helpu cymunedau i archebu gwaith o safon na fyddent yn gallu ei weld heb yrru i leoliad celfyddydol mawr. Nid ein gwaith yw cefnogi bandiau tafarn, artistiaid teyrnged neu bantomeim.
Dwi’n newydd i deithio gwledig ac mae gennyf sioe dwi eisiau rhoi cynnig arni. Wnewch chi ei archebu?
Na wnawn. Rydym eisiau darn o waith sy'n barod i’w deithio. Gallwch werthu sioe inni sy’n cael ei ddatblygu gan wybod y bydd yn barod pan fyddwch yn ei theithio ond mae angen tystiolaeth glir y bydd hynny’n digwydd. Mae'n anodd mentro gyda gwaith newydd heb ei brofi gan artistiaid newydd os nad oes ganddynt brofiad teithio. Wedi’r cyfan, y gwirfoddolwyr sy'n mentro a nhw sy’n gorfod byw gyda'r gynulleidfa ar ôl y sioe.
Ddylwn i gyfieithu’r wybodaeth am fy sioe i'r Gymraeg?
Cofiwch mai gwlad ddwyieithog yw Cymru ac mae Noson Allan yn gweithio yn Gymraeg neu Saesneg. Mae ein holl ffurflenni a gwybodaeth ar gael yn ddwyieithog a gallwch sgwrsio â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Mae tua 23% o’n harchebion ar gyfer perfformiadau Cymraeg. Mae croeso ichi gyfieithu eich gwybodaeth i'r Gymraeg ac os yw'ch sioe ar gael yn Gymraeg, dylech bendant wneud hynny gan y bydd hyrwyddwyr sy'n archebu sioeau Cymraeg yn edrych ar ochr Gymraeg ein gwefan. Nodwch ym mha iaith y mae’r cynhyrchiad ar gael. Os mai dim ond yn Saesneg mae’r sioe, nid oes angen ichi gyfieithu eich gwybodaeth i'r Gymraeg. (A chofiwch y peryglon ynghlwm wrth ddefnyddio offer cyfieithu ar-lein!)
Rydym yn eithaf technegol yn ein hanghenion. A yw hyn yn broblem?
Weithiau rydym yn eithaf technegol ein hanghenion ac mae rhai pethau allweddol i'w cofio. Byddwch yn cario eich set eich hun. Ar y cyfan, nid oes gan ein lleoliadau staff cymorth i'ch helpu. Felly, o bosibl y bydd angen ichi ddod â'ch technegydd a'ch offer eich hun. Os oes nenfwd isel yno, rhaid ystyried hyn a diogelwch y gynulleidfa wrth osod y goleuadau. Weithiau prinder plygiau sydd. Po hiraf y bydd angen ichi ymsefydlu yno, anoddaf fydd gwerthu eich sioe, oherwydd prysurdeb y lleoliadau – mae eu hincwm yn dod o letya grwpiau meithrin, badminton, ac ati. Rhaid iddynt wasgu eich sioe i ganol y pethau sy’n ennill eu hincwm rheolaidd. Cofiwch nad oes gan y mwyafrif o leoliadau seddi ar ogwydd ac felly gall fod yn anodd gweld eich sioe. Os bydd newidiadau allweddol yn y plot sy’n digwydd ar y llawr, o bosibl na fydd pawb yn eu gweld sy’n mynd ar nerfau cynulleidfaoedd. Bydd pobl wedyn yn sefyll i weld beth sy’n digwydd.
Côr cymunedol ydym – oes modd inni gael ein harchebu?
Fel arfer, nac oes. Gyda pherfformwyr proffesiynol rydym yn gweithio. Tŷ Cerdd sy’n cynnig arian i helpu corau a chymdeithasau cerddoriaeth i gynnal digwyddiadau, archebu arweinwyr neu unawdwyr a phrynu cerddoriaeth neu offerynnau.
Pa gyhoeddusrwydd fydd ei angen arnoch?
Mae angen eich cyhoeddusrwydd ar hyrwyddwyr i hyrwyddo'r sioe. Mae presenoldeb ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol iawn yn ogystal â thaflenni A5 a phosteri A4. Ond gofynnwch i’r hyrwyddwyr faint sydd eu hangen. Fel arfer byddem yn disgwyl tua 200 taflen ac 20 poster i ddigwyddiad ond mae lleoliadau'n amrywio. Efallai mai dim ond lle bach sydd gan rai ar hysbysfwrdd y pentref a’u bod yn gwerthu’r sioe drwy siarad â phobl. Felly byddai cannoedd o bosteri’n wastraff. Dylai fod posteri a thaflenni’n denu’r llygad a chyda lle i ychwanegu manylion arnynt. Rhaid iddynt werthu'r cysyniad o fynd i weld sioe a'r sioe ei hun. Hefyd ceisiwch ddarparu cyhoeddusrwydd a chlipiau fideo ychwanegol, gwybodaeth i'r wasg, lluniau ac ati.
Pa waith sy'n addas i gynulleidfaoedd gwledig / cymunedol?
Cwestiwn arall yw’r ateb: beth yw cynulleidfa wledig? Mae tua 23% o'r sioeau sydd wedi’u harchebu drwy Noson Allan yn rhai Cymraeg. Rydym yn gweithio ym mron pob cymuned yng Nghymru sy’n cynnwys ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol a diweithdra hirdymor, rhai arfordirol a phentrefi mynydd. Mae’r cynulleidfaoedd yn amrywio. Bydd yno bobl sy'n caru theatr fyw ac yn mynd yn rheolaidd, pobl y mae’n well ganddynt chwaraeon, pobl sy'n casáu rhegi, pobl sy'n hapus i brofi rhywbeth gwahanol a phobl sydd am gael eu diddanu a dyna’r cwbl! Sioeau teuluol ag apêl eang sy’n gweithio orau mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'n anodd gwerthu perfformiadau sydd ag apêl arbenigol i hyrwyddwyr. Efallai mai dim ond 400 o bobl sydd yn y pentref a chyfran fach ohonynt sy’n mwynhau jas modern, er enghraifft. Felly mae’r gynulleidfa bosibl yn crebachu ymhellach. Mae modd inni gefnogi gwaith arbenigol, ond rhaid ei gyflwyno a'i farchnata'n dda.