Noson Allan Fach

Fel mae’r enw’n awgrymu, fersiwn lai o Noson Allan yw Noson Allan Fach.

Llun: Menyw â thelyn ar bwys drws glas Credyd Gwenan Gibbard

Mae ar gael i sefydliadau ag aelodaeth fach yn y gymuned, fel Merched y Wawr, i’w galluogi i ychwanegu perfformiadau artistig proffesiynol at eu rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau. 

Nid yw Noson Allan Fach yn cefnogi darlithoedd nac arddangosiadau - ac eithrio lle mai perfformiad byw yw'r brif elfen. Nid yw'n cefnogi chwaith ddigwyddiadau o natur lenyddol yn unig. Mae cefnogaeth bosibl ar gael i ddigwyddiadau llenyddol gan gynlluniau Llenyddiaeth Cymru www.llenyddiaethcymru.org 02920472266.

Ni ddylai fod tocynnau i’r digwyddiadau na thâl mynediad a dylent fod ar agor i bawb. Gall perfformiadau fod ar unrhyw adeg o'r dydd a dylent fod yn ddarostyngedig i Delerau Cytundeb Noson Allan sydd ar ein gwefan.

Ar hyn o bryd mae ffi perfformiwr ar gyfer digwyddiad Noson Allan Fach wedi’i phennu’n £120. Fel arfer dyma raniad tair ffordd o £40 yr un rhwng yr hyrwyddwyr, Noson Allan a'r awdurdod lleol neu'r ymddiriedolaeth sy’n ei gefnogi. Os nad oes gan yr awdurdod lleol gytundeb â Noson Allan, bydd yr hyrwyddwyr yn talu £80 a bydd cyfraniad Noson Allan yn parhau’n £40. Ni fydd unrhyw arian yn cael ei gyfnewid cyn y digwyddiad a bydd Noson Allan yn talu’r ffi lawn i'r perfformwyr ar ôl cael anfoneb. 

"Mae cynllun Noson Allan Fach yn wych i ni fel Cymdeithas fach. Gallwn ofyn i artistiaid proffesiynol ddod atom. Mae llawer o'n haelodau wedi colli hyder wrth deithio'n bell i theatrau ac mae'n well ganddynt gael adloniant o safon ar eu stepen drws. Rydym wedi defnyddio’r cynllun am nifer o flynyddoedd ac yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol. O bydded i'r cynllun barhau !” 

Cymdeithas Lenyddol Brynrhos

Archebu digwyddiad - Dylid gwneud trefniadau dros dro gyda’r perfformiwr a ddewiswyd cyn cyflwyno cais. Cofrestrwch ar y porth a chyflwyno eich cais ar wefan Noson Allan www.nosonallan.org.uk. Rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 4 wythnos cyn y digwyddiad. Ar ôl inni gadarnhau, byddwn yn anfon e-bost at yr hyrwyddwr a'r perfformiwr.

I ddod o hyd i berfformwyr sydd â sioeau ar gael ar Noson Allan Fach ewch i'r dudalen Sioeau i'w archebu a dewiswch Noson Allan Fach o dan Categoreiddio sioeau.

Nodyn i berfformwyr: Ar ôl inni gael y cais, byddwn yn anfon llythyr cadarnhau atoch sy’n cynnig ffi o £120 a ffurflen adroddiad syml i'w llenwi ar ôl y perfformiad. Byddwn yn eich talu drwy BACS ychydig ddyddiau ar ôl cael eich anfoneb a’ch adroddiad.

Pe bai perfformiwr am gael unrhyw gostau pellach, mater preifat fyddai hyn rhwng y perfformiwr a'r hyrwyddwr ymlaen llaw – ni fydd Noson Allan yn talu rhagor. 

Nodyn i hyrwyddwyr a pherfformwyr: Os hoffech drefnu perfformiad mwy cyhoeddus yn y gymuned, lle byddai modd cynhyrchu incwm tocynnau a ffi uwch i'r artistiaid – holwch am  prif gynllun  Noson Allan. 

Lawrlwythwch y Canllawiau Dwyieithog Noson Allan Fach