Ffeithiau a Ffigurau
Golwg agosach ar y ffeithiau a'r ffigyrau ar gyfer cynllun Noson Allan dros y blynyddoedd, gan fynd yn ôl i'r adeg y dechreuodd yn 1980.
John Prior a ddatblygodd Noson Allan ac yn wreiddiol roedd yn rhan o Gymdeithas Celfyddydau De-Ddwyrain Cymru.
Sioe gyntaf Noson Allan oedd yn Neuadd Henoed Nantybwch, Tredegar ar 13 Hydref 1980. Taith gyntaf y cwmni theatr Small Change a berfformiodd Hope Street am drychineb Glofa Gresffordd.
Ym 1999 aeth yn gynllun cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru gan weithio ar y cyd â'r awdurdodau lleol.
Mae 300 grŵp o hyrwyddwyr yn archebu tua 500 sioe y flwyddyn. Mae hyn yn golygu dros 3,000 gwirfoddolwr cymunedol a chynulleidfaoedd o 25,000-30,000 y flwyddyn.
Bob blwyddyn mae ystod enfawr o berfformwyr a chwmnïau’n cael eu harchebu drwy'r cynllun. O'r dros 250 perfformiwr mae tua 60% yn dod o Gymru a 4% o dramor. Mae dros 23% o'r perfformiadau drwy’r Gymraeg.
Yn 1980 pan ddechreuwyd y cynllun, roedd 11 hyrwyddwyr yn cynnal 34 perfformiad. Ers hynny mae'r cynllun wedi cynyddu ac yn 2023, roedd 296 hyrwyddwyr yn cynnal 489 perfformiad. Cyfanswm o 14,007 perfformiad ers y sioe gyntaf dros 40 blynedd yn ôl.