Perfformwyr: Sut mae Noson Allan yn gweithio
Mae'r tudalen yma’n esbonio beth sy’n digwydd os yw rhywun yn eich archebu drwy Noson Allan.
1. Cofrestru
Ar ein gwefan rydym yn cynnig syniadau am sioeau y gall hyrwyddwyr eu harchebu gyda rhif ffôn ac e-bost y perfformiwr. Rhaid ichi e-bostio eich gwybodaeth at Noson Allan ac os ydych yn addas, byddwn yn rhoi hawl ichi fewngofnodi i'r wefan. Nid yw'n dda cael gormod o sioeau ar y wefan felly nid ydym yn cynnwys pob perfformiwr.
Unwaith y byddwn wedi rhoi linc i fewngofnodi i chi, gallwch gwblhau eich manylion ac 'Ychwanegu Sioe' a bydd hyn i'w weld ar y wefan yn ôl y dyddiadau mae ar gael. Gallwch hefyd gwblhau unrhyw ffurflenni adrodd o'ch porth. Gall rhai hyrwyddwyr archebu digwyddiad gan berfformwyr nad ydynt wedi cofrestru ar ein gwefan, mae hynny’n iawn ac yn yr achosion hyn rhaid i’r hyrwyddwr roi eich manylion cyswllt llawn i ni er mwyn cyflwyno'r archeb. Yn yr achosion hyn gellir cyflwyno eich ffurflenni adrodd trwy e-bost.
2. Archebion
Os bydd hyrwyddwyr sydd â diddordeb yn cysylltu â'r perfformiwr yn uniongyrchol, gwiriwch fod y sioe yn addas, yn fforddiadwy a bod modd diwallu’r gofynion technegol (gan gynnwys y lle perfformio ac amser sefydlu a datod y set). Wedyn maent yn nodi dyddiad addas posibl ac yn ymgeisio i Noson Allan. Fel arfer gallwn roi caniatâd i’r peth ddigwydd mewn tair wythnos. Rydym yn anfon cadarnhad o hynny drwy e-bost at yr hyrwyddwr a'r perfformiwr.
Rydym yn gwarantu talu'r ffi perfformiwr ond mae angen i'r perfformiwr gysylltu'n uniongyrchol â'r hyrwyddwr i sicrhau bod popeth arall yn iawn gan gynnwys ymsefydlu yn y lleoliad, amser cyrraedd, posteri a chyhoeddusrwydd. Rhaid trefnu lletygarwch gan gynnwys gofynion bwyd a llety ymlaen llaw. Efallai na fydd yr hyrwyddwyr yn gallu darparu llety dros nos. Cofiwch ein bod yn gweithio mewn sawl ardal o amddifadedd cymdeithasol ac efallai na fydd yr hyrwyddwyr yn gallu fforddio prydau drud ac ati.
Cyfrifoldeb yr hyrwyddwyr yw marchnata a chynnal y sioe ar y noson. Maent yn ymrwymedig i lwyddiant y sioe. Nid oes neb am weld y sioe’n methu. Wedi’r cyfan, nhw sy’n byw yn y pentref! Gall hyn olygu bod pobl yn tueddu dewis sioeau diogel ond mae marchnata da ac artistiaid gwych yn gallu goresgyn hynny.
3. Taliad
Ar ôl y sioe bydd angen ichi lenwi ffurflen adroddiad perfformiwr am y digwyddiad ac anfon anfoneb at Noson Allan / Cyngor Celfyddydau Cymru, gan ddyfynnu cyfeirnod y digwyddiad a’ch rhif archebu i : anfonebau@nosonallan.org.uk Rydym yn talu drwy BACS, fel arfer bob dydd Mercher. Ond ni fyddwn yn talu tan inni gael eich adroddiad.