Cynllun yr Hyrwyddwr Ifanc 

Mae Cynllun Hyrwyddwyr Ifanc arobryn yn gweithio gyda grwpiau o blant a phobl ifanc.

Llun: Merch yn gwerthu tocynnau

Mae cynllun Hyrwyddwyr Ifanc Noson Allan yn gweithio gyda grwpiau o blant a phobl ifanc i’w cymryd drwy'r broses o hyrwyddo sioe i’w cymuned a chael blas ar y gwaith y tu ôl i'r llenni sy'n gysylltiedig â threfnu digwyddiad.

Sut mae'n gweithio 

Dros gyfres o 5/6 sesiwn wythnosol bydd hwylusydd y prosiect, sy’n gweithio gydag arweinydd ieuenctid neu athro dosbarth, yn arwain y grŵp (neu'r dosbarth) drwy’r broses o wneud y canlynol: • pennu prisiau’r tocynnau ac amser cychwyn y sioe • dylunio’r posteri • marchnata a hyrwyddo’r sioe • cysylltu â'r perfformwyr • gwahodd Pobl o Bwys • trefnu’r raffl • gwerthu’r tocynnau ac ati.

Ar noson y digwyddiad, yr Hyrwyddwyr Ifanc fydd wrth y llyw - yn staffio'r swyddfa docynnau, dangos aelodau o'r gynulleidfa i'w seddi, areithio a thynnu lluniau o'r raffl ac ati. Yr Hyrwyddwyr Ifanc sy’n gwneud yr holl benderfyniadau a’r holl waith! 

Dysgu o brofiad 

Mae'n ffordd ddelfrydol o ddysgu plant a phobl ifanc drwy roi profiad a sgiliau ymarferol iddynt. Rhoddwn gyfle iddynt fod yn gyfrifol, dibynadwy a chreadigol. Rydym yn ymddiried ynddynt ac maent yn dysgu gweithio mewn tîm gan gyfrannu’n unigol yn ôl eu gallu a’u dymuniad sy’n rhoi hwb i’w hunanhyder. Mae hefyd yn gwella'r berthynas rhwng pobl ifanc â'u hysgol a'u cymuned. Dechreuodd y cynllun yn 2005 ac mae wedi gweithio gyda channoedd o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed ledled Cymru gan roi'r profiad iddynt o drefnu a mwynhau perfformiadau yn eu neuadd leol. 

Gall grwpiau fwynhau dysgu’n greadigol a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol a rhai sy’n gysylltiedig â’r byd gwaith. Pan fo’n digwydd yn yr ysgol, mae modd ei ddefnyddio i gyflwyno elfennau penodol o'r cwricwlwm cenedlaethol fel llythrennedd, TGCh, mathemateg, rhifedd, celf a dylunio a rheoli digwyddiadau Rhoddir cyfle i bobl ifanc fod yn gyfrifol, yn ddibynadwy, yn greadigol, i ymddiried ynddynt ac i weithio mewn tîm, gan wneud eu cyfraniad unigol ar lefel y maent yn teimlo’n gyfforddus â hi.

"Mae'r cynllun yn ardderchog gan ei fod yn rhoi cyfle i bobl ifanc a grwpiau cymunedol i wirfoddoli ar brosiectau sydd o fudd nid yn unig iddyn nhw ond eu cymunedau hefyd."

Julie Thomas, Canolfan Ieuenctid Saltney 

"Roedd yr holl gynllun yn syml y tu hwnt. Mae popeth yn cael ei egluro. Roedd cefnogaeth tîm Cyngor y Celfyddydau yn wych. Roedd y bobl ifanc yn hynod falch o'r hyn yr oeddent wedi'i gyflawni. Maent wedi tyfu o ran sgiliau a hyder ac maent yn ysu am ei wneud eto." 

Sharon Campbell  Canolfan Ieuenctid Colwyn Bay 

Partneriaethau Cymunedol 

Mae'r prosiectau hefyd yn datblygu cynulleidfaoedd drwy wahodd cymunedau i fynychu perfformiadau. Mae'r grwpiau'n hyrwyddo'r sioe ac annog eu teuluoedd, eu cyfeillion a’u cymdogion i ddod gan roi'r cyfle iddynt fod yn rhan o'r prosiect a phrofi rhywbeth gwahanol.

Mae hyrwyddwyr mewn ysgolion yn helpu i sefydlu’r ysgol yn rhan ganolog o’i chymuned gan feithrin ysbryd cymunedol ymhlith disgyblion a rhieni. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig mynediad at gelfyddydau byw o safon i gymunedau. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig a rhai o amddifadedd cymdeithasol lle gall cyfleoedd fod yn brin.

Mae Cynlluniau Partneriaethau Cymunedol wedi llwyddo i ddatblygu partneriaethau rhwng grwpiau mewn cymunedau gan greu cysylltiad rhwng yr heddlu, ysgolion, busnesau, asiantaethau datblygu, cymdeithasau tai ac arweinwyr cymunedol.

Llun/Image: Children receiving Certificates  Photo Credit: Karl Baker
Llun/Image: Box Office sign on display at Young promoter Event.

Sut i ddechrau 

Yr hyn sydd ei angen arnom gan grwpiau o hyrwyddwyr posibl yw: 

  •  Grŵp ymroddedig o 5 aelod hyd 30 aelod.

  • O leiaf un arweinydd grŵp i fod yn gyswllt rhwng hwylusydd Noson Allan a'r grŵp.

  • Lleoliad i gynnal perfformiad.

  • Lle ar wahân i gynnal sesiynau lle gall y bobl ifanc ganolbwyntio - ni allwn weithio ynghanol Clwb Ieuenctid rhag ofn i'r Hwylysudd cael eu taro â phêl-droed! 

  • Nid oes angen i bartneriaid prosiect fod wedi cael unrhyw brofiad blaenorol o gynnal digwyddiad. Mae'r cynllun yn grymuso grwpiau o hyrwyddwyr i gymryd cyfrifoldeb am hyrwyddo theatr broffesiynol sy’n gweddu i'w cynulleidfa. 

  • Mae taflenni gwaith ar gael ar gyfer y prosiect.

Darganfod mwy 

Os hoffech wybod rhagor am y cynllun, cysylltwch â Peter Gregory neu Hilary Farr ar 02920 441340 neu e-bostiwch ymholiadau@nosonallan.org.uk. Gallwch lawrlwytho taflen sydd yn disgrifio cynllun Hyrwyddwyr Ifanc yma