Perfformwyr: Cymorth a Chyngor
Cymorth Ychwanegol
Os ydych am fynd ar daith o amgylch canolfannau celfyddydol a theatrau, gallwch gael rhestr lawn o'r lleoliadau hyn gan Creu Cymru- yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru.
Os ydych yn chwilio am gyllid ar gyfer sioe neu brosiect, mae gan Cyngor Celfyddydau Cymru gynlluniau ariannu fydd efallai'n berthnasol. Creu yw'r prif gynllun ariannu sydd ar gael ar hyn o bryd.
I gael cyngor ar y sector teithiol gwledig a chymunedol a chynlluniau tebyg eraill ledled y DU, ewch i wefan y National Rural Touring Forum
Os ydych yn hyrwyddo eich digwyddiad Noson Allan trwy gyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch yr hashnodau canlynol a byddwn yn ceisio ail-bostio gwybodaeth eich digwyddiad:
- Facebook tag: @NosonAllanNightOut #NosonAllanNightOut #ArtsWales #CelfCymru #RuralTouring
- X (Twitter) tag: @NOutNAllan #NosonAllanNightOut #ArtsWales #CelfCymru #RuralTouring