Gwybodaeth i Hyrwyddwyr 

'Hyrwyddwyr' yw'r grwpiau sy'n defnyddio cynllun Noson Allan i gynnal sioe broffesiynol yn eu hardal leol.

Llun: Dyn yn gwerthu tocynnau gyda phobl yn aros Credyd llun: Keith Morris

Mae’r cynllun yn agored i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru. Mae'n helpu grwpiau i gynnal sioeau proffesiynol yn lleol drwy dynnu’r perygl ariannol. Rydym yn talu ffi'r perfformiwr ac mae'r hyrwyddwyr yn ad-dalu incwm y drws. 

Mae’r perfformiadau’n rhychwantu sawl celfyddyd: theatr, syrcas, pypedau, cerddoriaeth o bob math, dawns ac adrodd straeon. Rydym yn cynnig cyngor a syniadau am artistiaid i’w harchebu gyda sioeau sy'n addas i neuaddau cymunedol bach. Ond mae croeso ichi archebu artistiaid nad ydynt ar restr ein gwefan. Nid ydym yn cefnogi bandiau teyrnged, corau na phantomeim a Llenyddiaeth Cymru sy’n ariannu digwyddiadau llenyddol.  

"Rydym wedi ail-agor canolfan gymunedol yn ddiweddar yng Nghwm Rhymni Uchaf a phan awgrymwyd hyn i ni gyntaf, cymerwyd amser i ddarllen drwy'r daflen a thrafod fel pwyllgor ond roedden yn meddwl nad oedd hyn yn addas ar gyfer ein cymuned. Pa mor anghywir oeddem ni, fe benderfynon ni roi cynnig ar y sioe hon gan roedd perfformiad wedi ei  ganslo munud olaf ac roedd yn un o'r cyfleoedd gorau rydyn ni wedi'i gymryd. Mae'r nosweithiau hyn yn dod â'r gymuned ynghyd, maen nhw'n broffesiynol iawn ac yn difyrru pob oed. Mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi llwyfan cymdeithasol i ni ac roedd y teuluoedd yn mynegi cymaint y gwnaethant fwynhau’r sioe ac fe wnaeth hyrwyddo ein lleoliad yn aruthrol ledled yr ardal. Diolch am y cyfle."

Neuadd Gymunedol Triphil Caerffili 

"Mae gan bwyllgor ein neuadd bentref fomentwm gwych ar hyn o bryd, rydym yn fodlon rhoi cynnig ar bethau newydd, gan raglennu ystod eang o ddigwyddiadau yn y neuadd. Rydyn ni wir eisiau tyfu ein cynulleidfa o fewn ein pentref a thu hwnt. Roedd yn anhygoel gweld cyfran dda o’r gynulleidfa nad oedd erioed wedi ymweld â’r neuadd o’r blaen! Er bod yr ewyllys yno i wahodd digwyddiadau fel "Y Dewis", ni fyddem byth wedi gallu cymryd y risg ariannol i’w archebu’n annibynnol, yn syml, nid yw’r arian parod yno. Gyda chynllun Noson Allan roedd modd i ni archebu a hyrwyddo’r digwyddiad, casglu cynulleidfa newydd ac ehangach a chynnal digwyddiad hynod broffesiynol a gwahanol iawn yn y neuadd gyda llwyddiant mawr!”

Neuadd Bentref Llangoed 

I ymgeisio, rhaid cofrestru eich sefydliad hyrwyddo â ni. Wedyn gallwch Ychwanegu neu Gysylltu â'r lleoliad cymunedol ac yna cyflwyno eich cais ar-lein. 

Wrth gofrestru nodwch a ydych yn fodlon derbyn gohebiaeth gennym. Os ydych, gallwn roi gwybod ichi am ein cyfarfodydd i hyrwyddwyr sydd drwy Sŵm lle gallwch siarad â ni a chlywed gan berfformwyr a fydd yn teithio. 

Cysylltwch â'r perfformiwr. Gwnewch yn siŵr bod ei sioe yn addas i'ch lleoliad, a faint mae'n ei gostio. Nodwch dyddiad posibl yna gwnewch gais trwy'ch porth hyrwyddwr. Fel arfer byddwn yn gallu rhoi gwybod i chi o fewn ychydig wythnosau os gallwn gefnogi'r digwyddiad. Unwaith y cytunir ar gefnogaeth, gallwch hyrwyddo a chynnal y digwyddiad, yna adrodd nôl i ni wedyn. Rydym ni yn talu'r perfformiwr a byddwn yn anfonebu chi am unrhyw arian sy'n ddyledus yn ôl i'r cynllun.

Pa sioeau allwn ni eu harchebu ?

Deall sut mae Noson Allan yn gweithio i hyrwyddwyr

Gwirio cwestiynau cyffredin yr hyrwyddwr