Trefnu sioe yn eich cymuned

Sut mae Noson Allan yn gweithio.

Llun: Cynulleidfa yn mwynhau sioe Credyd llun Hazel Hannant

1. Yn gyntaf

Cofrestrwch eich sefydliad gan ddefnyddio'r opsiwn Mewngofnodi yn y bar dewislen uchaf. Dilynwch y broses gofrestru a chyflwynwch eich manylion i roi gwybod i ni am eich sefydliad cymunedol lleol a'r hyn yr ydych yn ei wneud.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru  gallwch gyflwyno cais. Sylwch y gallai awdurdodi eich archeb gymryd ychydig o ddyddiau. 

2. Cyn y digwyddiad

Cysylltwch â ni yn swyddfa Noson Allan neu ewch i'n gwefan  am syniadau gwych ar gyfer sioeau i'ch neuadd. Neu gallwch archebu perfformwyr proffesiynol rydych chi wedi'u gweld mewn mannau eraill, ond nid ydym yn cefnogi corau, pantomeimau na bandiau teyrnged. Cysylltwch â'r perfformiwr, gwnewch yn siŵr bod eich lleoliad yn ddigon mawr ar gyfer eu sioe, gwirio beth sydd ei angen arnynt ac a ydynt yn darparu deunyddiau cyhoeddusrwydd, yna cytunwch ar ddyddiad.

Gwnewch gais drwy wefan Noson Allan, gan adael o leiaf bedair wythnos cyn y digwyddiad (ond rhagor os yw’n bosibl). Rhaid penderfynu ar bris y tocynnau a ddylai adlewyrchu'r hyn sy'n fforddiadwy yn lleol a gwerth y sioe. (Gallwn ni argraffu’n ddi-dâl tocynnau os ydych am inni wneud).

Os bydd eich cais yn llwyddo, Noson Allan fydd yn talu ffi’r perfformiwr a all amrywio'n fawr a gallai gostio hyd at £950. Rydych yn cael y perfformiwr am bris gostyngedig o 50% o'r ffi lawn, hyd at uchafswm o £300 (£200 os yw'r lleoliad yn 20% uchaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru). 

Ni fyddwch yn talu unrhyw beth yn ôl tan ar ôl y digwyddiad. Mewn rhai achosion, gallwn drefnu i'ch awdurdod lleol warantu’r arian yn llwyr neu'n rhannol fel bod eich perygl o golli arian naill ai'n cael ei leihau neu’n diflannu.

Mae'n bosibl archebu sioeau drutach sy'n costio rhagor na £950 hyd at uchafswm ffi’r perfformiwr o £2,500. Ond yn hytrach na bod y warant yn £300, bydd y swm y mae'n rhaid i'ch sefydliad ei dalu'n ôl yn cynyddu gan yr un swm y mae ffi’r perfformiwr yn uwch na'r £950. (Mae ein system archebu yn gwybod yn awtomatig a fydd eich lleoliad yn cael disgownt Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru). 

Ffioedd Perfformiwr a Gwarantau 

Cyfanswm Ffioedd Perfformwyr 

Gwarant (isafswm y mae'n rhaid i chi ei dalu'n ôl)

£300

£150

£500

£250 (£200  20% uchaf MALlC)

£600

£300 (£200)

£950

£300 (£200)

£1200

£550 (£450)

£2500

£1850 (£1750)

3. Cynnal y digwyddiad

Chi sy'n gyfrifol am gynnal y digwyddiad felly gwnewch yn siŵr bod gennych bobl eraill i helpu gyda'r gwaith. 

Gofynnwch i’ch awdurdod lleol a oes angen arnoch Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro neu drwydded arall -mae angen gwneud cais am hyn o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os na fyddwch yn gwneud cais mewn pryd, bydd yn rhaid canslo'r digwyddiad ac efallai y byddwch yn atebol am ffioedd canslo. 

Gwiriwch gyda’r perfformwyr pryd y byddwch yn derbyn cyhoeddusrwydd neu wybodaeth i’r wasg, pryd maent am osod y llwyfan, sut mae’r sioe yn cael ei llwyfannu, lle hoffent newid ac unrhyw faterion technegol neu hygyrchedd – bydd llun o’r gofod perfformio yn helpu. Gofynnwch a hoffent gael bwyd neu diod ar y noson ac os felly, gofynnwch am eu gofynion dietegol.

Efallai mai’r cyfryngau cymdeithasol yw’ch opsiwn gorau i farchnata a hyrwyddo ond hyrwyddwch y digwyddiad i’ch gwasg lleol a’ch cymuned leol; gosodwch bosteri a chofiwch fod clywed gan bobl eraill am y digwyddiad yn hanfodol. Cofiwch gydnabod cefnogaeth Noson Allan a chynnwys gwybodaeth am hygyrchedd y lleoliad i bobl anabl (logos ar gael ar ein gwefan). - Cliciwch yma am fwy o gyngor am hygyrchedd. Cliciwch yma am syniadau ar gyfer hyrwyddo eich digwyddiad. 

Ar ddechrau’r digwyddiad, cyflwynwch y sioe a soniwch a oes egwyl, ewch drwy faterion sylfaenol iechyd a diogelwch (allanfeydd tân, diffodd ffonau symudol ac ati) a chydnabod cefnogaeth gan Noson Allan ac arianwyr eraill. Oni bai bod y perfformwyr yn dweud fel arall, caewch y bar neu’r siop fwyd yn ystod y perfformiad a gwnewch yn siŵr nad yw’r raffl egwyl yn rhedeg yn hwyr. Cofiwch fwynhau!

4. Wedyn

Rydym yn talu’r ffi lawn i’r perfformiwr ar ôl derbyn ei anfoneb a’i ffurflen adrodd. Rydych yn llenwi ein ffurflen adroddiad syml sy’n datgan incwm eich tocynnau ac, unwaith y byddwn yn anfon anfoneb atoch, rydych yn gwneud unrhyw daliad i Arts Council of Wales. Ar gyfer taliadau uniongyrchol, mae ein manylion banc ar waelod yr anfoneb. Efallai y bydd trefniadau ariannol yn amrywio ychydig.

Os nad ydych yn gwneud £300 / £200 ond bod gennych warant gan eich awdurdod lleol, bydd hyn yn talu am y gwahaniaeth. Anfonwch incwm y tocynnau sydd gennych a byddwn yn bilio eich awdurdod lleol am y gweddill. Rydym yn disgwyl ichi wneud eich gorau glas i werthu’r perfformiad.

Os ydych yn gwneud mwy na £300 / £200 byddwch yn gallu cadw’r £100 nesaf o elw, neu fwy os yw’ch costau cytûn yn uwch. Rhaid dychwelyd unrhyw arian ar ôl hynny, hyd at gost lawn y perfformiwr, i Noson Allan er mwyn inni allu cefnogi digwyddiad rhywun arall. Mae hyn ddim ond yn wir am incwm y tocynnau. Byddwch yn gallu cadw unrhyw arian sy’n dod o werthu lluniaeth neu raffl. 

Gallwch lawrlwytho dogfen ychwanegol am archebu sioe ar gyfer eich cymuned