Hyrwyddwyr - Cwestiynau Cyffredin ar gyfer hyrwyddwyr
Sawl sioe y gallaf eu harchebu?
O ran beth sydd yn ein cyllideb, gall hyrwyddwyr archebu hyd at 4 sioe'r flwyddyn (1 Ebrill hyd 31 Mawrth) drwy'r cynllun ond wrth gwrs mae’r nifer yn hyblyg. Gan fod Noson Allan yn gwarantu yn erbyn colled, os yw hyrwyddwyr yn gwerthu llawer o docynnau, mae cymhorthdal yn llai a bydd mwy o’n harian yn mynd i gefnogi ceisiadau eraill. Rydym yn cefnogi gweithgareddau ledled Cymru, felly rydym hefyd yn blaenoriaethu digwyddiadau mewn ardaloedd sy’n brin o weithgarwch wedi’i ariannu. Nid ydym fel arfer yn derbyn ceisiadau am sawl noson oni bai bod tystiolaeth glir o'r galw am gyfres o ddigwyddiadau felly.
Oes modd cael archebu mwy nag un perfformiwr ar gyfer yr un digwyddiad?
Oes. Rydym yn hapus i gefnogi noson gyda pherfformwyr ychwanegol. Gallwn dalu ffi i ragor nag un artist. Rydym yn cyfrifo’r arian ar y ffi gyfan sy’n cael ei thalu. Wrth archebu, rhaid ichi ychwanegu pob artist yn berfformiwr newydd.
Oes angen trwydded arnaf?
Mae’n dibynnu ar y math o ddigwyddiad ac ar ffactorau eraill megis a ydych yn gwerthu alcohol. Eich awdurdod lleol sy’n gallu eich cynghori. Yn aml, nid oes angen trwydded ar gyngerdd fach sy’n gorffen ar adeg resymol. Ond o ddefnyddio neuadd gymunedol, gallai’r neuadd fod â rheoliadau neu gytundebau penodol â'r cyngor lleol am y nifer o weithgareddau sydd i’w cynnal. Gallwch ymgeisio am drwydded o’ch cyngor lleol sy'n costio £21 fel arfer. Rhaid gwneud cais am o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad ond gadewch ragor o amser os oes modd. Hysbyseb Digwyddiad Dros Dro
Allwch chi argymell sioeau?
Gallwn, gallwn roi syniadau ichi am sioeau sydd ar gael i’w teithio defnyddiwch yr adran sioeau i'w archebu. Cysylltwch â ni yn y swyddfa os oes gennych geisiadau penodol neu os hoffech drafod syniadau. Rydym yn cynnal cyfarfodydd hyrwyddwyr ar-lein pan fyddwn yn gwahodd perfformwyr i siarad am sioeau y maent yn eu teithio.
Allwn ni archebu artistiaid nad ydynt ar restr eich gwefan?
Gallwch – cyn belled â'u bod yn hapus i anfon anfoneb atom, eu bod ddim yn band teyrnged, côr na phantomeim. Rhaid ichi gael enw cyswllt, e-bost a rhif ffôn a rhaid cyflwyno ffurflen Ychwanegu Sioe a Perfformiwr newydd trwy eich porth Hyrwyddwr. Byddwn ni wedyn yn cysylltu â nhw a’u cynnwys yn ein system yna gallwch gwneud yr archeb.
Beth am gostau eraill y digwyddiad?
Noson Allan fydd yn talu ffi'r perfformiwr. Ond nid ydym yn talu am system sain na chostau eraill. Gallwch roi gwybod inni am y costau eraill ac os ydym yn hapus eu bod yn addas, gallwn eu hystyried wrth ichi ad-dalu arian ychwanegol o werthiant tocynnau. Am ragor o wybodaeth, mae dolen isod.
Rydym yn trefnu digwyddiad codi arian, allwn ni ddefnyddio Noson Allan? Gallwch, gallwch godi arian o'r digwyddiad at achosion da ond cofiwch fod gwerthiant tocynnau yn dod yn ôl i Noson Allan i dalu ffioedd y perfformiwr, felly eich prif incwm i godi arian fydd gwerthu bwyd a diod neu trefnu raffl..
Oes rhaid i'r digwyddiad fod yn yr hwyr?
Nac oes. Gallwch gynnal digwyddiad ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i'ch cynulleidfa. Felly gallwch gynnal sioe brynhawn ar gyfer teuluoedd neu bobl hŷn, er enghraifft.