Sylwadau Hyrwyddwyr 

Dyma rhai o sylwadau diweddaraf gan hyrwyddwyr ar ôl eu digwyddiad Noson Allan.

"Mae mor syml! Dylwn i fod wedi cofrestru â Noson Allan oesoedd yn ôl. Diolch yn fawr am eich cyngor a'ch cymorth – mae mor hawdd cysylltu â chi. Mae'r profiad wedi rhoi'r hyder i'r grŵp wneud rhagor yn y gymuned." 

Grŵp Gweithredu Ardal Abergele 

" Roedd y cwmni yn bleser gweithio gyda nhw ac fe gawson nhw noson fendigedig o gerddoriaeth. Cawsom ein syfrdanu gan nifer y bobl a ddaeth, rhai mor bell i ffwrdd â Wiltshire! Roedd awyrgylch hyfryd, cymunedol yn y neuadd a'r adborth a gawsom oedd ei bod wedi bod yn noson wych."

Canolfan Gymunedol Llangadog

"Mae'r cynllun hwn yn hanfodol i alluogi pobl o gymunedau amrywiol i gael mynediad i'r celfyddydau a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf. Mae Noson Allan wedi bod o gymorth cyson."

Kiran Cymru

"Mae Noson Allan yn rhoi'r hyder inni drefnu perfformiadau proffesiynol. Rydym yn gwybod y bydd pobl yn dod oherwydd safon y sioeau. Ond heb y warant i’n diogelu’n ariannol, ni allem fentro gyda’r perfformiadau drutach. Mae’r perfformiadau’n cyfoethogi ein cymuned. Maent yn dod â chroestoriad gwahanol o bobl at ei gilydd. Maent bob amser yn bwnc siarad am amser hir ar eu hôl ac yn creu hanes - hyd yn oed i'r rhai nad oeddynt yno gan eu bod eisiau clywed amdanynt a gwybod beth fydd nesaf."

Neuadd Bentref Cilcain, Sir y Fflint 

"Gwych am ganiatáu i ni arbrofi gyda digwyddiadau nad ydynt yn brif ffrwd, yn enwedig yn y Gymraeg lle rydym yn dal i adeiladu ein cynulleidfa."

Sinema Tywyn Magic Lantern 

"Roedd y sioe yn synnu pawb gyda'i emosiwn. Soniodd pawb am yr actio gwych a'r syndod sut roedd yn gwneud iddyn nhw deimlo. Daeth bonws ychwanegol gyda'r bara blasus a dipiau a wnaed yn ystod y perfformiad â dod a pawb at ei gilydd ac agorodd sgyrsiau gyda’r gynulleidfa a’r cast. Aeth yr actorion â ni ar stori ysgafn i stori garu deimladwy a gafaelgar, gan amlygu trasiedi cenedl a phobl brydferth sydd wedi’u rhwygo gan ryfel. Heb  cynllun Noson Allan ni fyddem wedi gallu cael perfformiad o'r fath safon i hwn yn ein pentref ond mae mor anhygoel bod hyn wedi digwydd! Trawsnewidiwyd ein neuadd bentref fechan am y noson gan y cynhyrchiad gwych hwn." 

Neuadd Bentref Narth a'r Cylch 

"Fe wnaeth pawb fwynhau'r perfformiad roedd yn ddigwyddiad hudolus! Roeddem ni'n gweld y broses gyfan yn hawdd i'w ddefnyddio a byddem yn argymell unrhyw grŵp neu sefydliad i archebu digwyddiad Noson Allan. Roedden ni wrth ein bodd!"

Cwmni Theatre Rising Stars 

"Roedd y cwmni'n drefnus iawn ac yn bleser gweithio gyda nhw. Roedd y sioe yn anhygoel - aeth aelodau'r gynulleidfa o chwerthin i ddagrau ac yn ôl eto! Roedd y gynulleidfa o'n pentref ni a'r cyffiniau. Dywedodd un aelod "mae perfformiad drama yn gymaint o brinder yn yr ardal yma ac roeddwn i wedi fy nghyffroi i fod yn mynd.” Roedd eraill wedi rhyfeddu at safon y cynhyrchiad a bod modd ei brofi yn y gymuned. Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus yn ein hardal felly mae cael digwyddiadau diwylliannol yn llythrennol ar garreg y drws yn caniatáu i bobl i brofi rhywbeth y byddent efallai yn colli allan arno fel arall."

Neuadd Gymunedol St Hilary 

"Dyma oedd ein penblwydd yn dathlu 6 oed o Y Parlwr. Heb gefnogaeth Noson Allan, ni fyddem wedi gallu dod â pherfformiadau o'r safon hon i gynulleidfaoedd. Mae’n gynllun amhrisiadwy sy’n ei gwneud hi’n bosibl i hyrwyddwyr a lleoliadau bach sy’n canolbwyntio ar y gymuned gyflwyno artistiaid o safon uchel, heb y risg o wneud colled. Mae’r artistiaid yn sicr o’u ffi, sy’n aml yn brin y dyddiau hyn mewn llawer o leoliadau."