Rhestr wirio i berfformwyr 

Isod mae'r wybodaeth y bydd ei hangen arnom gan gwmni sy'n dymuno cael ei ystyried gennym ar gyfer teithio ar y cynllun.

Llun: 3 pherfformiwr o gwmni Theatr Bash Street Credyd llun Hazel Hannant
  • Isafswm y lle perfformio sydd ei angen 

    Mae'r rhan fwyaf o leoliadau yn 5m x 5m. Mae rhai yn 3m x 3m! Meddyliwch yn fach. Os yw’ch sioe yn fawr, bach bydd y siawns o’i harchebu. Mae gan rai lleoliadau nenfwd isel - felly nodwch isafswm eich sioe o ran uchder. 

  • Hyd y perfformiad 

  • Egwyl 

    Yn aml yn hanfodol. Gall fod yn anodd gwerthu eich sioe hebddi. Mae hyrwyddwyr yn dibynnu ar raffl neu luniaeth yn ystod yr egwyl i godi arian. 

  • Cost

    Cost fesul sioe/ar gyfer cyfres. Dywedwch wrthym os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW. Ydy'r gost yn cynnwys llety ac ati?

  • Nifer y perfformwyr

  • Amser sefydlu'r set: amser datod y set: 

  • Llwyfan 

    Ydych yn dod ag un? Faint o le fydd yn ei gymryd?

  • Pŵer

    Beth sydd ei angen arnoch? Cofiwch, nid oes gan bob neuadd bentref lawer o socedi neu gylchedau 3 cham. Gwnewch yn siŵr bod eich offer yn cael prawf PAT.

  • System sain a goleuadau 

    Nid oes gan lawer o neuaddau oleuadau na system sain. Fel arfer rydym yn gofyn i gwmnïau eu darparu fel rhan o'u pecyn. Rhaid i’r gynulleidfa allu eich gweld a'ch clywed a chael ychydig o naws y sioe.

  • Marchnata

    Mae hyrwyddwyr angen taflenni A5 a phosteri A4 gyda lle gwag am fanylion neu sticeri. Ydych yn gallu cynnig cefnogaeth farchnata ac ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i werthu'r sioe? Oes modd gweld rhagolwg o’ch sioe/ei gweld ar y we? Oes gennych ddolenni i'ch gwaith arall neu glipiau ar YouTube ?

  • Cynulleidfa Darged 

    Oedran/Arbenigedd

  • Anghenion Arbennig 

    Gofynion arbennig: fel blacowt, goleuadau strôb, angen diffodd larymau mwg ac ati. Os byddwch yn cynhyrchu mwg yn ystod y perfformiad neu angen cyhoeddiadau wedi'i wneud, rhowch wybod i'r hyrwyddwyr ymlaen llaw. 

  • Llety 

    Rydym yn disgwyl i berfformwyr drefnu eu llety a chynnwys y costau yn eu ffi. Efallai y bydd hyrwyddwyr yn gallu argymell gwely a brecwast lleol ac mae rhai yn gallu rhoi lle aros i berfformwyr yn eu tai.

  • Yswiriant / Diogelwch:

    Oes gennych yr hawl i weithio yn y DU? Oes gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus? Oes modd ichi gyflwyno asesiad o berygl? Ydych wedi teithio gwaith gyda chynlluniau eraill? Nodwch gan bwy y gallwn gael geirdaon neu dywedwch gyda phwy y gallwn drafod eich gwaith. 

Diddordeb?

Anfonwch atom wybodaeth am eich cwmni a’ch sioe: ymholiadau@nosonallan.org.uk neu ffoniwch 02920 441340