Gwybodaeth i Berfformwyr

Mae Noson Allan yn gweithio ledled Cymru gyda hyrwyddwyr gwirfoddol mewn neuaddau pentref, gofodau a lleoliadau cymunedol sydd eisiau archebu perfformwyr proffesiynol.

Llun: Dawnswyr Affricanaidd Credyd llun Hazel Hannant - Siyaya

Darllenwch y wybodaeth isod a'r cyngor yn y dolenni cyn e-bostio eich gwybodaeth. Rydym yn cael llawer o geisiadau gan gwmnïau ac nid ydym yn gallu ymateb i bob ymholiad. Anfonwch eich gwybodaeth i: ymholiadau@nosonallan.org.uk

Fodd bynnag mae digwyddiadau llenyddol yn cael eu hariannu gan Llenyddiaeth Cymru ac efallai y bydd rhai cymdeithasau cerdd a chorau am ymchwilio i gyfleoedd ariannu gan Ty Cerdd. Ni chefnogir bandiau teyrnged, pantomeimiau a chorau trwy Noson Allan.

Gwybodaeth am Noson Allan 

Mae Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn helpu cannoedd o grwpiau cymunedol ledled Cymru i ddod â'r celfyddydau i galon eu cymuned drwy gynnal digwyddiadau proffesiynol ym maes y celfyddydau perfformio mewn lleoliadau llai ac anarferol (neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol yn bennaf).

Drwy'r cynllun gall cymunedau bach gael hygyrchedd at gelf wych mewn lle cyfarwydd, cyfeillgar a gall artistiaid fwynhau perfformio mewn lleoedd bach, anffurfiol gyda chynulleidfaoedd agosach atynt. Mae Noson Allan yn gweithio drwy gydol y flwyddyn gydag artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys ystod o'r celfyddydau perfformio - theatr, syrcas, cerddoriaeth a phypedau.

​Mae Noson Allan Fach yn fersiwn lai o'r cynllun sydd wedi'i anelu at berfformwyr Cymraeg.

"Mae’r cymunedau gwledig mor werthfawrogol o’r cynllun. Mae’n dod â theuluoedd a ffrindiau o bob oed ynghyd. Fel cerddorion rydym yn ffynnu ar yr ymatebion gwych a'r mwynhad a gawn i ddiddanu'r ardaloedd anghysbell hyn."

St Louis Express Jump Jive Band

"Mae Noson Allan yn wych - mae'n galluogi perfformwyr proffesiynol sefydledig fel ni i ddod â'n sioeau i leoliadau gwledig, gan gyrraedd llawer mwy o bobl gyda'n cerddoriaeth. Heb gynllun fel hwn, dim ond mewn dinasoedd mawr y byddai sioeau fel ein un ni yn gallu perfformio."

CarmenCo

Sut i gofrestru fel perfformiwr 

Anfonwch eich gwybodaeth atom. Os credwn eich bod yn addas, byddwn yn rhoi hawl mewngofnodi fel perfformiwr ichi. Yna gallwch roi eich gwybodaeth ac Ychwanegu Sioeau sy'n ymddangos ar ein gwefan. Byddwch yn nodi pryd mae’r sioe ar gael a bydd yn ymddangos yn ôl dyddiad ar ein gwefan.

Mae Noson Allan yn un o nifer o gynlluniau tebyg sy'n bodoli ledled y DU. Mae'r National Rural Touring Forum yn datblygu ac yn cefnogi'r rhwydwaith. Fel perfformiwr, gallwch ymuno â'r Fforwm a darganfod rhagor am ei gynadleddau, ei ddigwyddiadau a’i gynlluniau eraill. 

Deall sut mae Noson Allan yn gweithio i berfformwyr?

Gwiriwch gwestiynau cyffredin y perfformiwr

Darganfod beth sydd angen i ni ei wybod gennych chi