Amdanom
Mae cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i ddod â'r celfyddydau perfformio i neuaddau a lleoliadau cymunedol.
Ers ei sefydlu ym 1980, mae’n gweithio gyda rhwydwaith o hyrwyddwyr cymunedol gwirfoddol. Mae wedi darparu dros 14,000 sioe yn lleol. Gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol sy’n cynnal y sioeau i ddod â'r celfyddydau byw i'w cymuned. Gall grwpiau cymunedol (sef ein 'Hyrwyddwyr') ddewis o ystod enfawr o berfformwyr proffesiynol gwych a'u llwyfannu mewn neuaddau bentref neu gymunedol a lleoliadau anhraddodiadol eraill ledled y wlad. Mae 300 grŵp cymunedol gwahanol yn archebu tua 500 sioe drwy'r cynllun bob blwyddyn. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae Noson Allan yn gweithio a chyngor am beth i’w archebu neu os ydych am hyrwyddo digwyddiadau, ewch i Adran yr Hyrwyddwyr.
Noson Allan Fach
Ochr yn ochr â'r prif gynllun, mae hefyd Noson Allan Fach sy'n cynnig sioeau bach i sefydliadau dan arweiniad yr aelodau fel Merched y Wawr neu Sefydliad y Merched. I ddod o hyd i berfformwyr sydd â sioeau ar gael ar Noson Allan Fach ewch i dudalen Sioeau i Archebu a dewiswch Noson Allan Fach o dan Categoreiddio sioeau.
Gwarant yn erbyn colled
Gan weithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol Cymru, mae Noson Allan yn cynnig gwarant yn erbyn colled am ddigwyddiadau. Ni sy’n talu ffi'r perfformiwr a'r hyrwyddwr cymunedol sy’n ad-dalu incwm o’r drws. Nid ydym byth yn cymryd rhagor na chostau’r perfformiwr, felly ni fyddwch byth yn waeth eich byd drwy ddefnyddio'r cynllun. Po fwyaf o arian mae’r hyrwyddwyr yn ei gymryd, mwyaf o arian fydd gennym ni i ariannu ceisiadau eraill.
Mae’r perfformiadau yn rhychwantu sawl celfyddyd: theatr, syrcas, pypedau, cerddoriaeth o bob math, dawns ac adrodd straeon. Rydym yn cynnig cyngor a syniadau am artistiaid i’w harchebu gyda sioeau sy'n addas i neuaddau cymunedol bach. Ond mae croeso ichi archebu artistiaid nad ydynt ar restr ein gwefan.