Cefnogaeth Marchnata
Felly, rydych wedi penderfynu hyrwyddo sioe yn eich lleoliad. Beth sydd i’w wneud nesaf?
Yn gyntaf, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae cannoedd o wirfoddolwyr cymunedol eraill ledled Cymru sy’n hyrwyddo sioeau. Y prif beth sydd ei angen yw brwdfrydedd, amser, ymdrech, dychymyg a chefnogaeth pobl leol eraill. Mae'r dolenni isod yn mynd â chi at ddogfennau defnyddiol gyda syniadau ac awgrymiadau i wneud eich digwyddiad yn llwyddiant.
" I mi, mae'r holl ymdrech yn werth chweil pan, 20 eiliad ar ôl dechrau’r sioe, dwi’n sylweddoli 'rydym wedi'i gyflawni!"
Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol:
Sefydlwch dudalen i’r digwyddiad, rhannwch y ddolen i brynu tocynnau ar-lein i alluogi pobl i brynu’n syth, rhannwch Drydar y perfformiwr a’i wybodaeth. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwysig o gael gwybod beth sy’n digwydd.
Os ydych yn hyrwyddo eich digwyddiad Noson Allan ar y cyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch yr hashnodau canlynol a byddwn yn ceisio ailbostio gwybodaeth eich digwyddiad:
- Facebook tag: @NosonAllanNightOut #NosonAllanNightOut #ArtsWales #CelfCymru #RuralTouring
- X (Twitter) tag: @NOutNAllan #NosonAllanNightOut #ArtsWales #CelfCymru #RuralTouring
Yr Hwb Cymorth Marchnata:
Mae hwn yn ganllaw mwy manwl a fydd yn eich helpu i wneud cynllun marchnata ar gyfer eich digwyddiad. Fe'i bwriedir ar gyfer pobl sydd ag ychydig o amser ar eu dwylo, sydd am wneud gwaith da o gynllunio marchnata. Yn aml, treulir ymdrech ar ddysgu, yn hytrach na gwneud. Fodd bynnag, mae'r canllaw hwn yn cynnwys templed i chi ysgrifennu eich cynllun marchnata eich hun, ac mae gweddill y canllaw yn darparu'r wybodaeth bwysicaf sydd ei hangen arnoch i gwblhau'r templed hwn. Bydd yn eich helpu trwy brif gamau'r broses, felly gallwch fod yn sicr bod gennych yr holl elfennau pwysicaf yn eu lle.