Cynaliadwyedd 

Rhaid i bawb ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwahaniaeth. Isod mae awgrymiadau a dolenni i adnoddau eraill i’ch helpu. 

Llun/Image: Canwr o Simbabwe, Umduno Wesizwe, o flaen y meicroffon Credyd llun: Betina Skovbro

Mae ôl troed carbon teithio gwledig o leiaf 50% yn llai na sioeau mewn theatrau trefol gyda rhagor na 50% o’r gynulleidfa bentref yn byw lai na 5 cilometr i ffwrdd o leoliad pentref.

Hyrwyddwyr 

  • Tocynnau ar-lein: ffordd syml ac effeithiol o leihau eich ôl troed carbon yw newid o docynnau papur i system ar-lein. Mae’n syml a hawdd i'w defnyddio ac fel arfer mae’r tâl yn fach iawn  Esiamplau yn cynnwys Ticketsource WeGotTickets.comLittle Box Office

  • Ailgylchu - defnyddiwch finiau â rhaniad a rhai compostio gwastraff bwyd a chofiwch wneud y biniau ailgylchu yn hygyrch.

  • Defnyddiwch gyflenwyr lleol ar gyfer bwyd a diod.

  • Dim ond os oes rhaid y dylech ddefnyddio eitemau tafladwy. Ceisiwch osgoi plastig a deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Gall ymddangos fel newid syml ond gall defnyddio cwpanau a phlatiau y mae modd eu hailddefnyddio arbed arian a dŵr a lleihau nwyon tŷ gwydr. "Mae cwpanau papur tafladwy’n gofyn am dorri 6.5 miliwn o goed bob blwyddyn." 

  • Gosodwch arwyddion i atgoffa pobl i ddiffodd goleuadau ac ailgylchu. Mae gwneud hynny’n gwrtais yn gweithio'n well na gorchymyn moel.

  • Cynhaliwch archwiliad carbon o neuadd y pentref - y cam cyntaf wrth fynd i'r afael â'ch ôl troed carbon yw deall eich allbwn. Mae Llyfr Gwyrdd Theatr           Arolwg Cartref yn galluogi perchnogion a rheolwyr adeiladau i greu cynllun cynaliadwyedd ar gyfer eu hadeiladau.

  • Newidiwch i fylbiau arbed ynni LED: newid syml ond effeithiol y gall neuaddau pentref ei wneud. Ar gyfer pob bwlb sy'n cael ei newid, gellir arbed 5 cilogram o allyriadau C02 a hefyd hyd at £60 y flwyddyn ar eich bil trydan. Darganfyddwch ragor am sut i newid bylbiau yma. Amnewid sbotoleuadau halogen |Smart Energy GB 

  • Defnyddiwch eich lleoliad i godi ymwybyddiaeth eich cynulleidfaoedd o'r hinsawdd ac am eich gwaith i leihau eich ôl troed carbon.

  • Beth am annog eich cynulleidfaoedd i gerdded i ddigwyddiadau neu rannu car? Beth am gynnig tocyn raffl am ddim i gerddwyr neu 10% i ffwrdd wrth y bar? Hysbysebwch ddewisiadau cludiant cyhoeddus, os oes rhai.

  • Beth am gynnal digwyddiadau â thema neu gysylltu â mentrau gwyrdd? 

  • ​Beth am wneud eich lleoliad yn fwy cyfeillgar i fyd natur? Defnyddiwch stwff glanhau sy’n garedig i’r hinsawdd. Tyfwch ragor o blanhigion. Ewch yn gynefin i fywyd gwyllt drwy gofleidio mentrau megis No Mow May neu gosodwch westy i bryfed neu plannwch wrychoedd, creu bocs Swift , gwesty chwilod neu perthi

  • Technolegau newydd a mesurau effeithlonrwydd ynni: mae llawer o wybodaeth ar gael a chynlluniau ar gyfer neuaddau cymunedol - megis rhaglen sy'n ceisio datgloi grym cymunedau Cymru i gymryd eu camau cyntaf tuag at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a byw'n fwy cynaliadwy fel cynllun Llywodraeth Cymru Cyfleusterau Cymunedol aCronfa Cymunedol Loteri a'r Egin,

Perfformwyr

  • Ni all pob cwmni fforddio cael cerbyd trydan ac os llwyddoch erioed i drefnu taith yn seiliedig ar ddaearyddiaeth yn unig, rhowch wybod inni!  Ond mae Llyfr Gwyrdd y Theatr yn fan cychwyn da i feddwl am y newidiadau y gallwch eu gwneud - dolen isod.

  • Gwnewch y pethau bychain - gall hyd yn oed gwmni bach wneud gwahaniaeth mawr. Gallai gynnwys ailbwrpasu ac uwchgylchu propiau, penodi pencampwr amgylcheddol, prynu'n lleol, sicrhau bod propiau a deunyddiau’n cael bywyd wedi’r sioe, osgoi rhai deunyddiau a chefnu ar boteli dŵr plastig.

  • Dylech osgoi deunyddiau nad ydynt yn pydru wedyn megis gliter, balwnau.

  • Dylech osgoi anfon unrhyw beth i'r safle tirlenwi a meddwl yn hytrach am ei werthu neu drosglwyddo propiau i berfformwyr neu grwpiau cymunedol eraill.

  • Gall rhoi'r amgylchedd a chynaliadwyedd ar yr agenda ar ddechrau'r prosiect olygu eich bod yn gwneud dewisiadau fel cwmni sy’n gwneud gwahaniaeth.

  • Meddyliwch am ailgylchu. Ble mae eich lleoedd ailgylchu agosaf? 

  • Cofiwch ddiffodd unrhyw offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

  • Meddyliwch am fwyd - paratowch ymlaen llaw neu bydd pawb yn prynu creision, brechdanau mewn pecyn plastig a losin yn yr orsaf betrol agosaf! 

Mae Llyfr Gwyrdd y Theatr gan Julie's Bicycle yn fan cychwyn da wrth feddwl am y newidiadau y gallwch eu gwneud.