Anfonebu 

A ninnau’n gorff cyhoeddus, rydym yn rhan o'r Fenter Dwyll Genedlaethol. Rydym yn cymryd camau i sicrhau nad ydych chi na ninnau yn dioddef drwy dwyll ariannol. Rhaid inni lanlwytho data, gan gynnwys gwybodaeth am gyflenwyr i gronfa ddata genedlaethol. 

​​Rhaid i anfonebau cyfreithiol fod mewn fformat penodol ac, yn anffodus, os cawn anfonebau anghywir, byddwn yn eu dychwelyd. Felly rhaid inni gael anfonebau yn y fformat cyfreithiol cywir. Mae manylion llawn am hyn ar wefan HMRC. Os hoffech lawrlwytho templed anfoneb, defnyddiwch y dolenni ar waelod y tudalen yma.

Rhaid i anfonebau gynnwys:

  • Rhif cyfeirnod unigryw.

  • Enw eich cwmni, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt.

  • Enw a chyfeiriad y cwmni neu’r person rydych yn ei anfonebu.

  • Disgrifiad clir o'r hyn rydych yn codi tâl amdano.

  • Dyddiad y nwyddau neu'r gwasanaeth a ddarparwyd (dyddiad cyflenwi / dyddiad perfformiad).

  •  Dyddiad yr anfoneb

  •  Y swm neu symiau a godwch

  •  Swm y TAW os yw'n berthnasol.

  • Cyfanswm y swm dyledus.

  • Nodwch hefyd ar anfonebau at Gyngor Celfyddydau Cymru: enw, rhif a chod didoli eich cyfrif, cyfeirnod yr archeb a'ch rhif archeb.

Lawrlwytho templed anfoneb