Hawdd bod yn ddwyieithog
Nodwedd amlwg yn ein cymdeithas yw'r Gymraeg. Mae ymchwil yn dangos bod 86% o bobl Cymru yn teimlo'n falch o'r iaith.
Mae cynnal digwyddiad dwyieithog yn gyfle gwych i ddangos eich bod yn croesawu a chynnwys pawb. Mae hefyd yn gyfle ichi arddangos y Gymraeg i gynulleidfa ehangach. Mae dros 25% o ddigwyddiadau Noson Allan yn berfformiadau Cymraeg neu ddwyieithog. Chwiliwch am sioeau Cymraeg ar ein gwefan.
Mae llawer o wybodaeth am yr ymarfer gorau a bod yn ddwyieithog ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyfarchwch westeion yn Gymraeg hyd yn oed os yw’ch sioe yn Saesneg neu ddwyieithog. 'Noswaith dda / Prynhawn da' (Good evening / Good afternoon). Peidiwch â phoeni os na allwch barhau â'r sgwrs yn Gymraeg. Eglurwch nad ydych yn siarad yr iaith ond eich bod yn gefnogol i'r Gymraeg fel sefydliad.
Gwnewch hi’n hawdd i bobl adnabod siaradwyr Cymraeg: Archebwch fathodyn Iaith Gwaith i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr ei wisgo drwy e-bostio: post@cyg-wlc.cymru. Mae’r bathodyn yn dangos pwy yn eich tîm sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg ac mae’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio’r iaith gyda chi os ydyn nhw’n dymuno.
Rhowch y siaradwyr Cymraeg yn eich tîm lle byddant yn dod i gysylltiad â’r cyhoedd. Er enghraifft, wrth y fynedfa neu’r ddesg groeso. Isod mae mwy o syniadau ar sut i recriwtio gwirfoddolwyr dwyieithog i'ch digwyddiad. Gwnewch yn glir bod croeso i'r Gymraeg yn eich digwyddiad. Gwnewch yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn ystod eich digwyddiad.
Mae rhagor o syniadau yma.
Geiriau defnyddiol ar gyfer cyhoeddusrwydd / posteri
English |
Welsh |
---|---|
Box Office |
Y Swyddfa Docynnau |
In partnership with |
Mewn partneriaeth â |
Price |
Pris |
Tickets |
Tocynnau |
Concessions |
Consesiynau |
OAP |
Pensiynwyr |
Adults |
Oedolion |
Children |
Plant |
Show Times |
Amserau'r sioe |
Contact |
Cysylltwch â |
Tickets in advance from |
Tocynnau ymlaen llaw o |