Hygyrchedd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant a sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl ymgysylltu â'r gweithgarwch celfyddydol o'u dewis fel aelodau o’r gynulleidfa, artistiaid neu gyfranogwyr.

Os ydych yn hyrwyddo digwyddiadau, mae camau syml i’w cymryd i roi gwybod i bobl am eich lleoliad a’i hygyrchedd. Dyma pam rydym yn gofyn cwestiynau am hygyrchedd pan fyddwch yn ychwanegu gwybodaeth am leoliad sy’n ymddangos ar y tudalen rhestru digwyddiadau.
Gallwch hefyd ofyn i berfformwyr a oes ganddynt anghenion hygyrchedd y dylech wybod amdanynt. Mae llawer o gwmnïau bellach yn cynnig sioeau gyda disgrifiadau sain, teithiau cyffwrdd neu ag Arwyddeg.
Mae'n ymarfer da rhoi mynediad am ddim i gynorthwywyr neu ofalwyr y rhai sydd ag anghenion hygyrchedd. Mae Noson Allan yn annog hyrwyddwyr i wneud hynny.
-
Mae Lle Cyfartal yn ganllaw’r ymarfer gorau i ddarparwyr celfyddydol am anabledd
-
Hynt: Mae Hynt yn gynllun hygyrchedd cenedlaethol newydd sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol Cymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr anabl a’r rhai sydd â gofyniad hygyrchedd penodol, a'u gofalwyr neu eu cynorthwywyr personol
-
Datblygu cynulleidfaoedd Cymru sydd â nam ar eu golwg rhagor o wybodaeth