Enw'r Perfformiwr: Owen Shiers

Enw'r Sioe: Cynefin

Disgrifiad y Sioe

Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw’r Cynefin hwn. Mae’n brosiect mapio cerddorol sydd yn tynnu llinell o’r gorffennol i’r presennol – gan gychwyn ym mro ei febyd. Magwyd Owen ar aelwyd gerddorol Gymreig – o’r alawon swynol a grwydrai o weithdy telynau ei Dad i fywyd ysgol a gwyliau megis yr Eisteddfod a’r Cnapan. Ers graddio o Brifysgol Caerfaddon, mae Owen wedi trafod ei sgiliau fel cyfansoddwr a thechnegydd sain ar draws nifer o brosiectau, gan gynnwys nifer o albymau yn stiwdio ‘Real World’ ac ar y record lwyddiannus ‘Clychau Dibon’ gan Catrin Finch & Seckou Keita gyda chynhyrchydd John Hollis. Enwebydd ar gyfer Gwobrau Gwerin Cymru 2019, mae Cynefin yn rhoi llwyfan i Owen i drin ei sgiliau offerynnol a threfnu wrth ddychwelyd yn ôl i’w gwreiddiau. Caneuon coll.. Ar ôl dod o hyd ar hap i hen faled anghofiedig gan faledwr lleol, ysbrydolwyd Owen i ddadorchuddio mwy o storiâu a lleisiau’r werin leol sydd wedi mynd yn angof. Gwnaeth ysgoloriaeth o’r ‘Finzi Trust’ cynorthwyo’r gwaith ym mhellach, gan alluo iddo bori trwy archifau anweledig, cael gafael ar hen lyfrau a chasglu caneuon o faledwyr a haneswyr diwylliannol. Cafodd y canlyniad, sef albwm Dilyn Afon derbyniad ardderchog, wrth derbyn sawl enwebiad, gan gynnws Album Cymraeg y Flwyddyn y 2020 a thri enwebiad yng Nghwobrau Gwerin Cymru yn 2023. Shimli Shimli yw ail albwm Cynefin. Gan barhau i wreiddio ei gerddoriaeth yn gadarn yn arferion a llên gwerin Ceredigion, mae’r albwm yn cymryd ei theitl o’r arferiad sydd bellach wedi darfod yng Ngorllewin Cymru o gynnal nosweithiau lawen dros nos mewn melinau a gweithdai. Gan dynnu ysbrydoliaeth o ganu gwerin, traddodiad y beirdd gwlad – yn ogystal â stori a hanes sydd dal ar gof, mae’r albwm yn archwilio’r groesffordd rhwng cerddoriaeth, barddoniaeth, bwyd a byd natur. Mae’r albwm newydd yn ddeiseb gerddorol – ymdrech i roi llais i’r unigryw a’r diflanedig yn ein hoes o homogeneiddio ac anghofio.



Yes. Pictures, blurb, video etc. On all social media.
Storiwr a Cerddor Gwerin