Enw'r Perfformiwr: Sioned Webb

Enw'r Sioe: Y Delyn Deires - Ei Hanes A'i Hud / The Story And Spell Of The Triple Harp

Disgrifiad y Sioe

Mae Sioned Webb yn enillydd cenedlaethol ar y delyn deires. Mae'n ymwybodol ac yn parchu'r traddodiadau cyfoethog ond mae hefyd yn hoff o arbrofi ar yr offeryn, gan gyfuno technegau electronig gyda'r hen arferion. Bydd yn mynd â'r gynulleidfa drwy hanes yr offeryn, sut mae wedi wynebu difodiant a chael achubiaeth, a bydd y gerddoriaeth yn dangos hynny. Clywir gweithiau sy'n amrywio o lawysgrif Robert ap Huw i gerddoriaeth o Balesteina.

Delwedd ar gyfer sioe


Mae nifer o'r gynulleidfa wedi bod yn anabl, a'r gerddoriaeth wedi'u swyno.
Goleuo arferol
Soced drydan yn y wal - dod ag estyniad gyda fi.
Mae Sioned Webb wedi perfformio yn helaeth yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’n adnabyddus am ganu’r piano a’r delyn deires ac am gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth o bob math. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, yn eu plith, cyfrolau o ganeuon gwerin yn nodedig ‘Hen Garolau Cymru’ a ‘Seiniwn Hosanna’.