Enw'r Perfformiwr: Alys Williams

Enw'r Sioe: Alys WIlliams a Osian WIlliams

Disgrifiad y Sioe

Deuawd Gwerin Cymraeg

Delwedd ar gyfer sioe


Mae ‘na rai pethau sy’n mynnu glynu yn y cof. Mae clywed unrhyw gân sy’n cael ei chyffwrdd gan lais eneidiol gan Alys Williams yn un o’r rheini. ‘Synfyfyrio’, (Big Leaves), ‘Pan Fo’r Nos Yn Hir’ (Ryan a Ronnie), ‘Un Seren’ (Big Leaves) i enwi ond ychydig. Mae Alys, a’i ffordd ddihafal o gyflwyno melodïau, wedi serennu ar sawl prosiect dros y blynyddoedd diwethaf. Bu i Ifan Dafydd samplo ei llais ar y trac trip-hop tywyll ‘Celwydd’, mae’r ddeuawd ‘Llwytha’r Gwn’ gyda Candelas yn ffefryn cenedlaethol ac mae hi’n aml i’w gweld rhwng offerynnau pres Llaerggub yn perfformio ‘Gweld y Byd mewn Lliw’. Mae Alys bellach wedi sefydlu ei hun fel artist unigol gyda chriw o gerddorion y tu ôl iddi.