Enw'r Perfformiwr: Familia
Enw'r Sioe: The Time Travelling Clown School / Clownio'r Cloc
Disgrifiad y Sioe
Teithiwch yn ôl mewn amser i fyd gwirion CLOWNIO’R CLOC! Paratowch ar gyfer corwynt o hanes, direidi, ac anturiaethau llawn egni! Mae Clownio’r Cloc yn sioe rhyngweithiol unigryw sy’n teithio yn ôl mewn amser i gwblhau tasgau clownio creadigol. Ydych chi'n ddigon gwirion i gwblhau'r Prawf Bîp Sili Bili? Ydych chi'n ddigon arbrofol i ennill aur yn y Gemau Olympaidd Arallfydol? Dewch i ddarganfod drwy ymuno ag Ysgol Glownio Familia! Mae Cwmni Theatr Familia yn gwmni theatr teuluol arobryn wedi’i leoli yng Nghymru, sy’n darparu sioeau teithiol a phrosiectau addysgol ledled y DU. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda rhai o Glowniaid ac Artistiaid mwyaf blaenllaw’r wlad, mae’r cwmni wedi darparu hyfforddiant ac adloniant mewn lleoliadau megis Theatr Greenwich, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Didcot Cornerstone, Theatre Peckham a Neuadd Gerdd Wilton, yn ogystal â nifer o ysgolion a lleoliadau ledled y wlad.
