Enw'r Perfformiwr: Chris Harris
Enw'r Sioe: Gwen yr Arth Wen
Disgrifiad y Sioe
Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ sydd wedi torri gannoedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth ei theulu. Ar ei thaith beryglus drwy'r môr arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i'w dewrder, yn ogystal â'i ffordd adref. Yn dilymn grant llwyddiannus gyda'r CCC, mae’r perfformiad ar gael ar gyfer taith ganolfannau Gwanwyn 2026.
Bydd perfformiadau AD, BSL ac ymlaciedig yn cael eu trefnu ledled y daith. Os oes diddordeb gennoch chi mewn cynnig perfformiad hygyrchiol, plis cysylltwch.
Lleiafol
Cylchredau pwer syml sydd angen.
Yes. We can supply limited print and social media posts. A full marketing pack is available on request.
Mae Chris yn awdur, cyfieithydd a chyfarwyddwr. Mae wedi derbyn Gwobr Ysgrifennu Drama Richard Carne. Mae ganddo BA o Brifysgol Aberystwyth, MA o Brifysgol Amsterdam, a hyfforddodd fel dramodydd gyda Grŵp Ysgrifennu Drama Theatr y Sherman, 2016 - 2018. Ymhlith ei ddramâu mae: ‘Cariad yn Oes y Gin’ (Theatr Bara Caws), 'Golygfeydd o'r Pla Du' (Theatrau Sir Gar), 'Gwlad! Gwlad! (Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen) a 'Gwen yr Arth Wen' (Sefydliad y Glowyr Coed Duon).
Ar hyn o bryd mae'n datblygu: 'Y Boi Madfall' (Theatr Iolo), 'Trwbl Mawr yn Nhremyglyd' a 'Gomorrah' (Grant Sefydliad Peggy Ramsay). Mae hefyd wedi cyfieithu ar gyfer cynllun Playhouse Theatr Iolo ac wedi ysgrifennu sgriptiau Sibrwd i Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer 12 cynhyrchiad.
Mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y radio: ‘Gwen yr Arth Wen’ (BBC Radio Cymru), ‘Tic Toc’ (Boom Cymru/BBC Sounds), ‘The Atlantis Project’ (AM/Sir Gar/Open Drama UK).
Cynhyrchwyd ei ffilm gyntaf 'Milodfa' gan S4C, BBC Cymru a bydd 'It's My Shout' yn cael ei ddarlledu ar S4C a BBC iPlayer ym mis Tachwedd 2024.
Mae’n eistedd ar Fwrdd Theatr Bara Caws, Bwrdd Ymgynghorol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn aelod o TYA Cymru.
Cynrychiolir Chris gan Louisa yn LJP Management.
