Enw'r Perfformiwr: Mair Tomos Ifans

Enw'r Sioe: Trwy'r Tannau

Disgrifiad y Sioe

Cyfuniad cyffrous o chwedlau a cherddoriaeth, draddodiadol a gwreiddiol, sy'n dathlu'r delyn a thelynorion yng Nghymru. Tylwyth teg, cors cariad, gwg a gwen. Bydd Mair Tomos Ifans yn adrodd yr hanesion a chanu'r caenuon a Sioned Webb yn creu'r hyd a lledrith cerddorol ar y telynnau. Mae chwech telyn amrywiol yn ymddangos ar llwyfan gan gynnwys dwy delyn deires. ** Addas ar gyfer oedran 12+ *** Mae fersiwn Saesneg o'r sioe ar gael sef 'Telyn Tales'

Delwedd ar gyfer sioe


Nid oes angen goleuadau penodol - ond os oes system oleuo ar gael gallwn drafod ymhellach
Yn dibynnu ar faint y gofod, meics ac anghenion sain i gael ei drafod. Yn debygol o fod angen direct input a dau meic lleisiol ac o leiaf un meic offerynnol. Pwer a y llwyfan ar gyfer offer sain. Angen ardal berfformio tua 8 x 3 metr Ystafell i'r artistiaid wisgo a thiwnio'r telynnau
Mae ein deunydd hyrwyddo yn cael ei ddarparu gan ein cynhyrchydd Sian Evans - TrwyrTannau@gmail.com Pecyn gwybodaeth, lluniau, posteri, fideo etc
Perfformwraig - straeon a chaneuon traddodiadol a gwreiddiol, telynores, actor, ysgrifenwraig. Gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gan amlaf - ond gallaf siarad a pherfformio yn Saesneg hefyd !