Enw'r Perfformiwr: Flossy and Boo
Enw'r Sioe: Dwrgi
Disgrifiad y Sioe
Gyda sblish a sblash llon Cei ddilyn dy galon A deifio i ddyfroedd y stori. Â ffwr balch a bodlon Wrth nofio lawr yr afon Dilyna lwybr y dwrgi. Dilyna Dwrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, a ffeindio hud a lledrith ac ychydig bach o ddireidi ar hyd y daith. Mae Dwrgi yn brofiad theatr dwyieithog, aml-synhwyraidd sy’n berffaith i blant o dan 5 oed, ond mae croeso i bawb! Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar storïa, iaith a dad-ddofi ein hunain, ac mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg yn naturiol. Mae’n berffaith i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg ac unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg. Gan y doniau tu ôl i sioeau fel Blaidd, Ned and the Whale a How to Defeat Monsters (And Get Away With It), ymunwch â Flossy a Boo am stori arall yn llawn hwyl, cerddoriaeth ac antur.
