Enw'r Perfformiwr: Rhi Jorj
Enw'r Sioe: Rhi Jorj a'r Band
Disgrifiad y Sioe
Dyma fand sydd gyda sŵn gwerin modern gyda elfen o jazz a phop yn gymysg mewn caneuon gwahanol. Mae Rhi Jorj yn cyfansoddi caneuon melodaidd a synhwyrol gyda geiriau teleynegol a negeseuon yn llifo trwyddynt. Mae'r band wedi bod yn perfformio yn fyw ers Mawrth '25 ac wrth eu boddau yng nghwmni cynulleidfaoedd bach neu mawr gan fynd ar a'r gynulleidfa ar daith ac yn ran anatod o'r perfformiad. Clywir Billy Thompson yn creu synnau gwefreiddiol ar ei veiolin mewn ambell i gân. Mae Eryl Jones yn chware ei fanjo, mandolin a gitar gan greu awyrgylch arbennig a Paul Cooke yn creu dawns gyda'i fas dwbwl yn gefndir cryf i'r cwbwl.Mae gan Rhi lais unigryw sy'n lleddfu a hudo trwy ei holl ganeuon. Mae Rhi Jorj a'i band yn sicr o gynnig gwledd a mwynhad gyda safon uchel o berfformiad bob tro. Mae EP Amser, ac albwm Ysgafn ar gael ar y llwyfannau cymdeithasol yn ogystal a CD o Ysgafn.
