Enw'r Perfformiwr: Huw Chiswell
Enw'r Sioe: Huw Chiswell
Disgrifiad y Sioe
Canwr a cerddor gwerin a pop.
Noson o gerddoriaeth yng nghwmni Huw Chiswell.
Bydd Huw yn cyflwyno caneuon a gyfansoddwyd ganddo o gyfnod ei arddegau hyd y dydd heddiw, gan gyfeilio'i hun ar y piano ac yn achlysurol ar gitar.
Mae ei faledi yn gerbyd i straeon sy'n deillio o brofiadau bywyd Huw a thrwy'r darluniau personol hyn o'i gefnwlad, ei deulu a chydnabod, cawn argraff bersonol o'i fydolwg.
