Enw'r Perfformiwr: Burum

Enw'r Sioe: 7 Steps: The Music of Miles Davis

Disgrifiad y Sioe

Mae 7Steps yn perfformio cerddoriaeth Miles Davis, un o ffigurau pwysica' cerddoriaeth yr 20fed Ganrif. Bydd y band yn chwarae rhai o'r clasuron sy'n gysylltiedig â'r trwmpedwr; So What, All Blues, Milestones ond hefyd rhai o'r caneuon llai adnabyddus o gatalog helaeth Miles fel Joshua, Masqualero a Teo. Mae 7Steps yn cyflwyno cerddoriaeth Miles Davis gyda gwreiddioldeb ac angerdd. Mae Tomos Williams, ffigur allweddol y byd jazz Cymreig, yn arwain y pumawd ar y trwmped tra bod y band yn cynnwys y cerddorion jazz Cymreig Joe Northwood ar y sacsoffon, y pianydd Dave Jones, Aidan Thorne neu Paula Gardiner ar y bas a Mark O'Connor ar y drymiau.



Na
I can supply bi lingual blurb and photos
Mae aelodau'r band yn cynnwys rhai o gerddorion jazz mwyaf creadigol Cymru, yn perfformio dehongliadau dynamig a gwreiddiol o alawon gwerin traddodiadol Cymru. Mae'r band yn cyfuno parch dwfn tuag at y melodiau gwerin traddodiadol gyda hyblygrwydd a dynameg byrfyfyriol jazz - gan berfformio alawon hudol, pruddglwyfus ochr yn ochr ag unawdau tanbaid a rhythmau dwfn. Rhyddhaodd y band ei pedwerydd albwm 'Eneidiau' ym 2022.