Enw'r Perfformiwr: Rhiannon Mair a Steffan Phillips

Enw'r Sioe: Pan Elo'r Adar

Disgrifiad y Sioe

Mae ‘Pan elo’r Adar’ yn gynhyrchiad theatr gorfforol sy’n archwilio’r berthynas rhwng dirywiad byd natur ac ieithoedd lleiafrifedig (yn canolbwyntio ar y Gymraeg yn benodol). Caiff ei arwain gan yr artistiaid Rhiannon Mair a Steffan Phillips gyda chefnogaeth y cerddorion Heulwen Williams ac N'famady Kouyaté, a’r animeiddiwr Efa Blosse-Mason. Mae’n codi cwestiynau ynglyn â’n perthynas ni fel pobl gyda thir ac iaith fel ei gilydd, a phwysigrwydd y naill i sicrhau bod y llall yn cael ei warchod ac yn ffynnu. Mae’n gofyn hefyd i’r gynulleidfa fod yn weithredol yn y dyfodol. Mae’r gwaith hwn nid yn unig o safon artistig uchel, ond yn amserol o ran ei themâu ac yn cynnig llwyfan i drafod. Cyflwynir y gwaith gyda chefnogaeth Theatr Cymru, Cwmni’r Frân Wen, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Felinfach, Prifysgol De Cymru, a phrosiect Gwreiddiau Gwyllt Mentrau Iaith Cymru.

Delwedd ar gyfer sioe

Gofod 9m x 9m ar y llawr. Gynulleidfa mewn cylch. 50-70 o aelodau yn ddibynnol ar maint y gofod