Enw'r Perfformiwr: Elinor Bennett

Enw'r Sioe: Edward Jones, Bardd Y Brenin / The King's Bard

Disgrifiad y Sioe

Darlith gyda cherddoriaeth i gofio EDWARD JONES, BARDD Y BRENIN (1752 - 1824) Telynor, casglwr, bardd, hanesydd, athro, cyfansoddwr. gan ELINOR BENNETT   Rhannu hanes y bachgen bach o Landderfel, Gwynedd, a esgynnodd i fod yn delynor i'r Brenin Sior lV ar ddiwedd y 18fed ganrif yw'r ddarlith hon - gydag enghreifftiau o'i drefniadau o alawon Cymreig ar y Delyn Deires. Roedd Edward Jones yn delynor, athro a chasglwr cerddoriaeth o fri a'i ddymuniad angerddol oedd y byddai pobl Cymru, ganrifoedd ar ei ôl, yn dal i ganu'r alawon traddodiadol. Mae'n anhebyg iawn y byddem ni heddiw yn canu alawon fel Llwyn Onn, Ar hyd y Nos, Chodiad yr Ehedydd, heb waith gofalus Edward Jones yn casglu ac yn cyhoeddi cerddoriaeth a barddoniaeth a glywai yn ystod ei blentyndod. Bu "Bardd y Brenin" farw mewn tlodi ac unigrwydd yn ei lety yn Llundain. Bwriad y ddarlith/ddatganiad hon yw cofio am un o gymwynaswyr mwyaf cerddoriaeth Cymru, a diolch i Edward Jones am sicrhau ein bod ni heddiw yn mwynhau canu, a gwrando ar ein halawon traddodiadol.

Delwedd ar gyfer sioe


Golau arferol
Help i gario'r Delyn Deires i mewn i'r lleoliad. Byddai offer i roi cyflwyniad powerpoint yn dderbyniol iawn er ddim yn angenrheidiol.
Yes, on request
Mae'r delynores Elinor Bennett yn flaengar ym maes cerddoriaeth, fel perfformiwr ac athrawes a theithiodd y byd yn rhoi cyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr. Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain gyda’r athrylith, Osian Ellis, ac aeth ymlaen i berfformio gyda cherddorfeydd mwyaf Prydain a rhai o’r arweinyddion a chyfansoddwr gorau’r byd, yn cynnwys Benjamin Britten, Sir Colin Davis ac André Previn. Ysgrifennodd llawer cyfansoddwr gerddoriaeth iddi yn cynnwys Karl Jenkins, John Metrcalf, Alun Hoddinott a Paul Mealor. Enillodd Elinor Ysgoloriaeth Churchill i deithio i Awstralia i astudio Therapi Cerdd, a hi yw un sefydlwyr Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, a Chyfarwyddwraig Artistg cyntaf Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru. Bu'n perfformio a beirniadu mewn gwyliau telyn yn rhyngwladol - yn Siapan, Awstralia. Seland Newydd, Gwlad Thai, Yr Almaen, Ffrainc , yr Eidal , Iseldiroedd, ac America. Bu’n dysgu'r delyn ym Mhrifysgol Bangor, yn Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Ysgol Gerdd y Guildhall, yn Llundain a derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Rhyddhaodd ystod eang o recordiadau, ac ymddangosodd yn rheolaidd ar raglenni cerdd ar radio a theledu.