Enw'r Perfformiwr: The Gentle Good

Enw'r Sioe: The Gentle Good

Disgrifiad y Sioe

The Gentle Good yw enw lwyfan Gareth Bonello, cyfansoddwr o Gaerdydd. Mae Gareth yn defnyddio dylanwad iaith, barddoniaeth ac alawon Cymru i greu cerddoriaeth gwerin fodern yn y Saesneg a’r Gymraeg. Er na chafodd ei addysgu fel cerddor clasurol (astudiodd Gareth Sŵoleg yn y Brifysgol) cafodd gwersi ar y soddgrwth a’r piano yn ei ieuenctid ac fe ddysgodd ei hun sut i chwarae’r gitâr. Mae ei arddull prysur o chware wedi denu cymariaethau gyda gitarwyr enwog adfywiad gwerin y 1960au, sin a fuodd yn ddylanwad mawr ar Gareth erioed. Mae The Gentle Good wedi rhyddhau sawl record sydd wedi derbyn canmoliaeth wrth y cyhoedd a’r adolygwyr ac mae pob un wedi elwa o gyfraniadau’r ffidlwr a chyfansoddwr Seb Goldfinch, a’r cynhyrchydd Llion Robertson. Yn 2011 aeth Gareth a Seb ati i gydweithio gyda Phedwarawd Llinynnol Mavron a seireniaid y sin Cate Le Bon a Lisa Jên Brown i sgwennu a recordio Tethered for the storm. Roedd yr albwm yn llwyddiannus iawn gyda’r adolygwyr a chafodd ei enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg cyntaf. Yn yr un flwyddyn cafodd Gareth ei wobrwyo yn Gyfansoddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau RAP BBC Radio Cymru. Mae Gareth yn berfformiwr hyblyg a phrofiadol sydd yn aml yn perfformio fel unawdydd ond weithiau gyda band llawn a phedwarawd llinynnol tu ôl iddo. Yn 2009 cafodd Gareth ei ddewis i deithio i ŵyl y Smithsonian yn Washington DC gyda rhai o gerddorion traddodiadol mwyaf adnabyddus y sin. Ers hynny mae Gareth wedi perfformio ar draws y byd o feysydd parcio a bariau Austin, Texas i sioeau wrth ymyl yr harbwr yng ngŵyl Ban-geltaidd Lorient i berfformiadau unigol yn y Forbidden City Concert Hall yn Beijing.

Delwedd ar gyfer sioe


Enw lwyfan Gareth Bonello, y cerddor o’r brifddinas ydy The Gentle Good. Yn adnabyddus am ei alawon hudolus, drefniadau acwstig hardd a’i arddull gywrain ar y gitâr, Gareth yw un o gantorion amlycaf Cymru. Mae recordiau The Gentle Good wedi derbyn llond sach o glod. Mae'n gyn-enillydd o wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Gwobr Gerddoriaeth Gymreig. Cafodd ei albwm Galargan yn 2023 adolygiad 5 seren yn y Guardian ac fe’i rhestrwyd yn y 5 albwm gwerin gorau o 2023. Portread seicedelig o Gwm Elan ym Mhowys yw albym diweddaraf The Gentle Good. Fe'i hysgrifennwyd yn ystod preswyliad blwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria ac mae'n archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn, a gafodd ei foddi ar ddiwedd oes Fictoria i greu cyfres o gronfeydd dŵr yfed. Mae'r albwm yn cynnwys band llawn, synths a llinynnau ac yn cyfuno dylanwadau roc gwerin, seic a phop i ddwyn i gof dirweddau dramatig Elan. Mae Gareth wedi perfformio ledled y byd, o Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington DC i Neuadd Cyngherddau'r Forbidden City yn Beijing. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio'n helaeth gydag artistiaid o Tsieina ac India. Torrodd ei albwm Y Bardd Anfarwol (2013) dir newydd gyda'i gyfuniad unigryw o farddoniaeth Cymraeg a cherddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd. Sefydlodd y Khasi-Cymru Collective gydag artistiaid o'r cymunedau Khasi sy'n frodorol i Ogledd-ddwyrain India.