Enw'r Perfformiwr: Melda Lois
Enw'r Sioe: Melda Lois - Set Acwstig Unigol
Disgrifiad y Sioe
Set acwstig o ganeuon gwreiddiol Melda Lois.
Bydd angen i'r safle ddarparu system sain (PA, meicroffon a stand, a chysylltiad DI i gitar electro-acwstig.
Cantores-gyfansoddwraig o ardal Llanuwchllyn ydy Melda Lois, ond mae'n byw yng Nghaerdydd ers rhyw ddegawd bellach. Mae'n ysgrifennu caneuon sy'n bersonol ac acwstig, gydag ysbrydoliaethau gwerinol. Gall Lois roi perfformiad unigol mwy agos-atoch gyda dim ond hi â'i gitâr, neu ail-greu'r sŵn o'i EP cyntaf, Symbiosis, gyda band llawn.