Enw'r Perfformiwr: Phil Okwedy
Enw'r Sioe: Blues Echoes
Disgrifiad y Sioe
Blues Echoes Y Brodyr Barnone: Mae Bill Taylor-Beales a Phil Okwedy yn ganwyr-gyfansoddwyr a storïwyr gydag angerdd am blethu cerddoriaeth, cân a geiriau gyda'i gilydd wrth fynd ar drywydd y cyflwr dynol. Gallwch gael blas ar fythau, chwedlau, hanes cymdeithasol a straeon hunangofiannol, ar y cyd â cherddoriaeth a chân o'r traddodiad Blues hyd at y sîn gerddoriaeth gyfoes. Mae'r sioe yn archwilio themâu pobloedd wedi'u caethiwo, tlodi a phrotest dosbarth gweithiol, brwydr dyn yn erbyn y peiriant yn y 19eg a'r 20fed ganrif, a phrofiad cyfredol dynoliaeth yn yr 21ain ganrif, y cyfan yng ngoleuni'r traddodiad Blues/Spirituals fel catalydd o wytnwch a gobaith. Mae cynulleidfaoedd wedi ei chael hi'n: ddifyr - addysgiadol - rhyngweithiol - cyffrous - ysbrydoledig - pwerus - personol - codi calon - hwyl
