Enw'r Perfformiwr: Krystal S. Lowe
Enw'r Sioe: Remarkable Rhythm
Disgrifiad y Sioe
Remarkable Rhythm Un mainc, dau berson, a phum diwrnod. Drwy gyfrwng cerddoriaeth a symudiadau ac anhap, mae’r ddau berson ifanc yma’n profi’r anawsterau a’r llawenydd a geir trwy gysylltu â rhai sy’n annhebyg iddyn nhw eu hunain. Mae Rhythm yn fyrfyfyr ac yn profi bywyd fel symudiad. Gwell gan Glas gael bywyd digynnwrf a sefydlog, ac mae’n hoffi gweld pethau’n aros yr un fath. Pan fo Rhythm a Glas yn cwrdd ym mharc Bellevue, mae ganddynt bum diwrnod o wyliau hanner tymor i weld a yw eu cyfeillgarwch yn werth ei gadw ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’w gwahanol ysgolion. A fyddan nhw’n llwyddo i greu rhywbeth syfrdanol – rhythm sy’n eiddo iddyn nhw, a neb arall? Sioe theatr ddawns yw Remarkable Rhythm ar gyfer pobl ifanc 7+ a’u teuluoedd, gyda dau berfformiwr yn llefaru sain-ddisgrifiad creadigol o’r sioe tra maen nhw’n dawnsio. Mae’r sioe hon yn rhoi mynediad ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Mae holl linell y stori’n gwbl glir yn weledol, gan ei gwneud yn bosibl i gynulleidfaoedd Byddar gael profiad llawn o bob sioe (caiff yr holl destun a berfformir ei sain-ddisgrifio). Mae wedi creu gan Krystal S. Lowe ar y cyd â Theatr Iolo Cyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Iolo a South East Dance
