Enw'r Perfformiwr: Cwmni Theatr Arad Goch

Enw'r Sioe: Colli Hi / Meltdown

Disgrifiad y Sioe

Mae ‘Colli Hi’ yn archwilio themâu amserol ac emosiynol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys ofn, iselder, gorbryder, straen, a dicter. Mae Dwayne, bachgen 15 oed, yn ceisio byw o fewn teulu ‘normal’ sy’n cael ei lywio gan broblemau iechyd meddwl. Mae ei chwaer hŷn wedi’i pharlysu gan ofn, mae ei fam o dan straen difrifol, ei chwaer fach yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol, ei frawd bach yn crio’n barhaus, a’i dad folcanig ar fin ffrwydro. Mae’r cynhyrchiad yn dilyn cyfnod ym mywyd Dwayne, wrth iddo straffaglu trwy ei fywyd fel arddegwr gyda heriau teuluol yn dod o bob cyfeiriad. Crëwyd ‘Colli Hi’ (’Meltdown’ yn Saesneg), yn wreiddiol gan Zeal Theatre o Awstralia. Mae Zeal Theatre yn adnabyddus yng Nghymru am eu gwaith eiconig “Stones/Tafliad Carreg”, sydd wedi teithio sawl gwaith ac wedi bod yn rhan o gwricwlwm Drama CBAC. Crëwyd hwn hefyd mewn cydweithrediad â Chwmni Theatr Arad Goch.

Delwedd ar gyfer sioe


Byddwn yn dod a phopeth ein hunain
Gallwn ddarparu posteri a thaflenni, a marchnata'n ddigidol drwy y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Cwmni Theatr Arad Goch, a sefydlwyd ym 1989, ac sydd â'i gartref yn Aberystwyth, ymhlith y cwmnïau theatr teithiol prysuraf yng Nghymru; ei brif faes yw darparu theatr i blant a phobl ifanc. Mae gwaith Arad Goch yn tynnu ar draddodiadau cynhenid Gymraeg yn ogystal â themâu ac arddulliau cyfoes a heriol. Yn ogystal a pherfformio i ysgolion yn flynyddol rydym yn trefnu dwy daith gymunedol - un ddechrau'r flwyddyn i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion a thaith i plant oed cynradd yn yr haf. Trefnir gweithgareddau eraill hefyd i blant, pobl ifanc a’r gymuned ymhlith y rhain mae trefnu gweithdai i blant a phobl ifanc y tu allan i oriau ysgol a threfnu gweithdai iaith i gefnogi gwaith athrawon.