Enw'r Perfformiwr: Rhiannon O'Connor
Enw'r Sioe: Rhiannon O’Connor
Disgrifiad y Sioe
Noson yng nghwmni’r gantores Rhiannon O’Connor. Yn Perfformio cerddoriaeth wreiddiol ymysg clasuron gwerin Cymraeg. Mae ei geiriau twymgalon yn llawn emosiwn ac yn cael eu cyflwyno trwy ei llais unigryw
Mae Rhiannon yn gantores-gyfansoddwraig ddwyieithog o Dregaron, sydd bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae ei cherddoriaeth wedi'i hysbrydoli gan ei hamgylchedd hardd, bywyd cefn glad a magu 3 o blant. Mae Rhiannon bob amser wedi teimlo a phrofi pethau'n ddwfn ac mae ysgrifennu caneuon yn helpu i wneud synnwyr o'r emosiynau hyn.
Fel cerddor hunanddysgedig, roedd Rhiannon wrth ei bodd i ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022 gyda’i chân werin ei hun ‘Dere ar fy ‘ôl’. Cafodd lwyddiant pellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan gyrhaeddodd rownd derfynol ‘Brwydr y Bandiau Gwerin’ 2 flynedd yn olynol. Enillodd ganmoliaeth uchel gan y cerddorion gwerin adnabyddus Antwn Owen Hicks, Lleuwen a Gwilym Bowen Rhys am ei geiriau twymgalon a'i pherfformiad emosiynol.
Mae Rhiannon yn berfformio mewn lleoliadau a gwyliau lleol tra'n parhau â'i hysgrifennu.
