Enw'r Perfformiwr: Mei Gwynedd

Enw'r Sioe: Mei Gwynedd a Band Ty Potas

Disgrifiad y Sioe

Sioe codi canu sy'n dathlu hen ganeuon Cymraeg. Bydd Mei a'r Band Ty Potas yn chwarae ffefrynnau fel Moliannwn, Blaena Ffestiniog, Sosban Fach, Titw Tomos Las, Ceidwad Y Goleudy ayyb mewn ffordd hwyliog, gan annog y dorf i ganu mlaen! Rhyddhawyd Mei LP Sesiynnau Ty Potas yn 2023, ac ers hynn mae wedi bod yn brysur iawn led-led Cymru a thu hwnt yn rhoi bywyd newydd i'r hen ganeuon. Mae'r sioe yn gallu bod yn hyblyg i ofynion yr trefnwyr. Mae posib cael y band craidd (5 aelod), neu ychwanegu offerynnau pres, a dawnsiwyr! Yn ol Mei 'Ges i'n magu'n gwrando ar fandiau fel Tebot Piws, Hogia'r Wyddfa, Mynediad Am Ddim a Dafydd Iwan, heb son am yr ystod o ganeuon traddodiadol o'n i'n canu tra yn yr ysgol ac yn y capel pan o'n i'n ifanc. Da ni wastad yn cael hwyl yn tra'n perfformio'r clasuron yma, ac mae'n braf cael eu chwarae i genhedlaeth newydd, yn ogystal a'r hen stagers!' Mae Mei yn un o berfformwyr a chyfansoddwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn gynhyrchydd cerdd uchel ei barch, yn rhedeg label recordio, Recordiau JigCal, ac yn arweinydd y Gerddorfa Ukulele.



Dim gofynnion.
Nid yw'r band yn darparu system PA.
Mae Mei Gwynedd wedi bod yn cyfansoddi ac wedi bod yn aelod o rai o grwpiau mwyaf blaengar y sin roc Gymraeg ers dechrau’r 90au; Beganifs, Big Leaves, The Peth, Sibrydion ac eraill. Yn 2018 gwelwyd Mei yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol, (Glas 2018 a Y Gwir Yn Erbyn Y Byd 2021) a fo gyfansoddodd y gan dorfol Pethau Bychain, ail-recordio a chynhyr chu fersiwn cyfoes o Hei Mistar Urdd, (a dorrodd record y Guinness Book Of Records yn 2023) gan gynnwys amryw o brosiectau cyfansoddi / cynhyrchu eraill. Teimlai Mei fod nawr yn adeg da i adlewyrchu ar ei gerddoriaeth o, a’r gerddoriaeth sydd wedi’w dddylanwadu fel Cymro balch. Canlyniad hyn ydy i Mei fynd ati i recordio caneuon poblogaidd a thraddodiadol o dan y teitl, Sesiynau Ty Potas. Dywed Mei, “Ges i’n magu’n gwrando ar fandiau fel Tebot Piws, Hogia’r Wyddfa, Mynediad Am Ddim, Dafydd Iwan heb son am yr ystod o ganeuon traddodiadol o’n i’n canu tra yn yr ysgol ac yn y capel pan o’n i’n ifanc. Wrth deithio Cymru fel band a thra’n cynnal gweithdai efo pobl ifanc nes i weld a theimlo’r angen i gydnabod y caneuon yma, a bod dyletswydd i rannu a chario ‘mlaen efo’r traddodiad o’u canu am flynyddoedd i ddod, i’n plant ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Nes i fynd ati i gyd-weithio efo ystod o gerddorion talentog ac ail-recordio detholiad o ganeuon efo’r bwriad o greu naws ‘eistedd mewn tafarn traddodiadol, byrlymus.’ A dyma gyflwyno’r cyfanwaith o dan yr enw, ‘Sesiynau Ty Potas!” Lawnsiwyd y prosiect yn Acapela yn 2023, ac mae’n amlwg fod Mei wedi tapio mewn I galon y genedl gyda sawl uchafbwynt eisioes, gan gynnwys eu gig ‘cyfrinachol’ yn y Babell Len Eisteddfod 2023 gyda 2000 o Gymry yn cyd ganu. “Dw i’n edrych ymlaen i gael hwyl tra’n perfformo’r clasuron yma; ac mi fasai’n braf agor y drysau i gynilleidfa newydd, a rhannu ein bod ni yma yng Nghymru efo clasuron ein hunain sy’n sefyll gefn yng nghefn gyda chaneuon gweddill y byd.” Yn ogystal a bod yn un o berfformwyr a chyfansoddwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mae Mei yn gynhyrchydd cerdd uchel ei barch, yn rhedeg label recordio Recordiau JigCal ac yn ar weinydd Y Gerddorfa Ukulele.